Torquay 0–1 Wrecsam
Roedd un gôl yn ddigon i Wrecsam brynhawn Sadwrn wrth iddynt drechu Torquay yn y Gynghrair Genedlaethol oddi cartref yn Plainmoor.
Mark Carrington a sgoriodd unig gôl y gêm wrth i’r Dreigiau godi i’r safleoedd ail gyfle.
Chwaraewr reolwr y tîm cartref a gafodd gyfle gorau’r hanner cyntaf ond anelodd Kevin Nicholson ei ergyd dros y trawst.
Ond yr ymwelwyr o ogledd Cymru a gafodd unig gôl y gêm a hynny ddeuddeg munud o’r diwedd. Methodd Torquay a chlirio cic gornel a thasg hawdd oedd rhwydo i Carrington.
Bu bron i Nathan Smith gipio pwynt hwyr i’r tîm cartref ond cafodd ei gynnig ei glirio oddi ar y llinell.
Mae’r fuddugoliaeth yn codi Wrecsam dros Lincoln ac Eastleigh i’r pumed safle yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol.
.
Torquay
Tîm: Lavercombe, Berry, MacDonald, Richards, Nicholson, Smith, Verma, Heslop (Briscoe 88′), Butler, Wright, Murombedzi (Marsh 82′)
.
Wrecsam
Tîm: R Taylor, Smith, Hudson, Moke (Caton 59′), Newton, Fyfield, York (O’Brien 70′), Carrington, Evans, Vose (Gray 73′), Jennings
Gôl: Carrington 78’
Cerdyn Melyn: Vose 51’
.
Torf: 1,512