Barnet 0–1 Casnewydd                                                                    

Mae Casnewydd yn yr het ar gyfer trydedd rownd y Cwpan FA ar ôl trechu Barnet yn Stadiwm yr Hive yn yr ail rownd brynhawn Sadwrn.

Scott Boden oedd sgoriwr unig gôl y gêm toc cyn yr awr.

Wedi hanner cyntaf di sgôr, fe beniodd Boden y Cymry ar y blaen o groesiad Andrew Hughes.

Kevin Lisbe a ddaeth agosaf wrth i Barnet geisio taro nôl ond anelodd ei foli dros y trawst wrth i’r Alltudion ddal eu gafael.

Hwn yw’r tro cyntaf i Gasnewydd gyrraedd trydedd rownd y Cwpan FA ers i’r clwb ail ffurfio dros chwarter canrif yn ôl.

.

Barnet

Tîm: Stephens, Dembélé, N’Gala, Nelson, Yiadom, Akinde, Muggleton (Johnson 45′), Gash, Odofin (Gambin 75′), Batt (Lisbie 45′), Bailey

Cardiau Melyn: Dembélé 48’, Yiadom 68’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Holmes, Bennett, Partridge, Hughes, O’Sullivan (Klukowski 93′), Elito, Byrne, Rodman, John-Lewis, Boden (Ansah 91′)

Gôl: Boden 59’

Cerdyn Melyn: Partridge 71’

.

Torf: 1,767