Bolton 2–3 Caerdydd                                                                        

Cipiodd gôl hwyr Anthony Pilkington y tri phwynt i Gaerdydd wrth iddynt ymweld â Stadiwm Macron i wynebu Bolton yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Roedd yr Adar Gleision eisoes wedi mynd ar y blaen ddwy waith yn y gêm gyda Bolton yn unioni ar ddau achlysur. Ond pan rwydodd Pilkington ddeg munud o’r diwedd doedd dim ffordd yn ôl i’r tîm cartref.

Deuddeg munud oedd wedi mynd pan roddodd Tony Watt yr Adar Gleision ar y blaen gyda’i gôl gyntaf ers ymuno ar fenthyg o Charlton, y blaenwr yn gorffen yn daclus gyda chymorth y postyn.

Unionodd Bolton yn fuan wedyn gyda gôl dda, Gary Madine yn torri i mewn o’r chwith cyn crymanu ergyd i’r gornel isaf.

Felly yr arhosodd hi tan hanner amser ond roedd Caerdydd yn ôl ar y blaen yn gynnar yn yr ail gyfnod pan wyrodd ergyd Scott Malone i gefn y rhwyd.

Unionodd Dorian Dervite bethau gydag ugain munud i fynd ond cipiodd Caerdydd y pwyntiau i gyd pan anelodd Pilkington ei foli hwyr i gefn y rhwyd wedi i Kenwyne Jones benio’r bêl ymlaen iddo.

Mae’r canlyniad yn codi Caerdydd i safleoedd ail gyfle’r Bencampwriaeth, maent bellach yn chweched yn y tabl.

.

Bolton

Tîm: Amos, Vela, Dervite, Wheater, Casado, Feeney (Twardzik 94′), Pratley, Danns, Moxey (Dobbie 69′), Madine, Ameobi (Heskey 70′)

Gôl: Madine 17’, Dervite 71’

Cardiau Melyn: Casado 41’, 90’, Pratley 69’

Cerdyn Coch: Casado 90’

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Peltier (Fabio 23′), Morrison, Connolly, Malone, Noone, Gunnarsson, Ralls, Pilkington (Ameobi 85′), Watt (Dikgacoi 88′), Jones

Goliau: Watt 13’, Malone 53’, Pilkington 80’

Cardiau Melyn: Fabio 88’, Connolly 89’

.

Torf: 13,241