Abertawe 0–3 Caerlŷr
Mae trafferthion Abertawe yn parhau wedi i hatric Riyad Mharez sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i Gaerlŷr ar y Liberty brynhawn Sadwrn.
Sgoriodd y gŵr o Algeria ddwy waith yn yr hanner cyntaf cyn cwblhau’r fuddugoliaeth gyda’i drydedd hanner ffordd trwy’r ail hanner. Yr unig gysur i Abertawe efallai oedd iddynt atal blaenwr Caerlŷr, Jamie Vardy, rhag sgorio yn ei ddeuddegfed gêm yn olynol.
Doedd dim dwywaith mai Caerlŷr oedd tîm gorau’r hanner cyntaf ond roedd elfen o lwc yn perthyn i ddwy gôl gyntaf Mahrez.
Daeth y gyntaf wedi pum munud pan wyrodd cic gornel Marc Albrighton yn ffodus braidd oddi ar Mahrez i gefn y rhwyd.
Dyblodd fantais ei dîm hanner ffordd trwy’r hanner gyda gorffeniad taclus, y gôl yn cael ei chaniatáu er ei fod yn camsefyll.
Roedd yr Elyrch fymryn yn well wedi’r egwyl wrth i Ki Sung-yueng a Gylfi Sigurdsson ill dau ddod yn agos, peniodd Ki yn erbyn y trawst a chrymanodd Sigurdsson ergyd yn erbyn y postyn.
Caerlŷr yn hytrach a gafodd y drydedd gôl, gyda Mahrez yn cwblhau ei hatric gydag ergyd daclus yn dilyn cyffyrddiad da Vardy i’w lwybr.
Mae’r canlyniad yn codi Caerlŷr i’r brig ond yn gadael Abertawe yn bymthegfed yn nhabl yr Uwch Gynghrair.
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Naughton, Bartley, Williams, Taylor, Britton (Barrow 63′), Ki Sung-yueng (Cork 78′), Routledge (Montero 45′), Sigurdsson, Ayew, Gomis
Cardiau Melyn: Britton 47’, Ki Sung-yueng 74’
.
Caerlŷr
Tîm: Schmeichel, Simpson, Morgan, Huth, Fuchs, Mahrez (Schlupp 90′), Drinkwater, Kanté, Albrighton, Ulloa (King 87′), Vardy
Goliau: Mahrez 5’, 22’, 67’
Cardiau Melyn: Kanté 23’, Simpson 70’, Albrighton 90’
.
Torf: 20,836