Mae gobeithion Cymru Dan 21 o gyrraedd pencampwriaeth Euro 2023 yn deilchion ar ôl colli 5-0 yn erbyn Yr Iseldiroedd yn Nijmegen neithiwr (nos Fawrth, 12 Hydref).

Sgoriodd Jurgen Ekkelenkamp wedi ond saith munud, ac ychwanegwyd capten yr Iseldiroedd Sven Botman ail gôl tua 10 munud cyn yr egwyl.

Tri munud i mewn i’r ail hanner, fe rwydodd cefnwr de Cymru, Fin Stevens, i’w gôl ei hun i gynyddu mantais y tîm cartref.

Ddau funud yn ddiweddarach roedd hi’n 4-0 wrth i Daishawn Redan sgorio, a dri munud wedi hynny sgoriodd Jurgen Ekkelenkamp ei ail gôl o’r noson.

Roedd colli o 1-0 yn erbyn Moldofa nos Wener (8 Hydref) yn ergyd i obeithion Cymru o gymhwyso.

Mae’r golled hon yn gadael tîm Paul Bodin yn ail olaf yn ei grŵp a heb lawer o obaith cyrraedd y rowndiau terfynol.