Mae Adam Davies wedi datgelu sut mae chwarae gêm Formula One ar y Playstation wedi rhoi chwaraewyr Cymru ar y trywydd iawn ar gyfer llwyddiant yn Ewro 2020.

Cyrhaeddodd Cymru eu canolfan hyfforddi yn Baku nos Lun (7 Mehefin) ac mae’r gwesty’n edrych dros ran o drac canol y ddinas gafodd ei ddefnyddio ar gyfer Grand Prix Azerbaijan y diwrnod cynt.

Ond y gêm gyfrifiadurol mae nifer o chwaraewyr Cymru wedi bod yn dod yn gyfarwydd â hi.

“Mae gan tua wyth neu naw ohonom yn chwarae ac yn sefydlu ein Grand Prix bach ein hunain,” meddai Adam Davies.

“Rydyn ni i gyd mewn ystafelloedd gwahanol ac yn gallu cysylltu ag un lobi.

“Rydyn ni wedi bod yn chwarae cwrs Baku hefyd sydd wedi bod yn hwyl.

“Mae David Brooks yn gyflym iawn, ac mae ychydig yn flin gan mai fi, mae’n debyg, yw’r ail orau allan o bawb.

“Pan fydd Brooksy y tu ôl i mi dw i’n gwybod ei fod yn mynd i ‘mhasio.

“Big Kieffer Moore yw’r chwaraewr gwaethaf dwi erioed wedi’i weld arno – mae e’n rhy fawr i’r car!”

Danny Ward yn y gôl ddydd Sadwrn?

Danny Ward yw’r ffefryn i ennill y ras i ddechrau yn y gôl yng ngêm agoriadol Cymru yn erbyn y Swistir.

Cafodd gôl-geidwad Caerlŷr ei ddewis cyn y Wayne Hennessey, sydd â 95 cap, yn erbyn Gwlad Belg a’r Weriniaeth Tsiec yn ystod ymgyrch cymhwyso Cwpan y Byd fis Mawrth.

Cafodd Adam Davies gyfle pan anafwyd Hennessey yn ystod buddugoliaeth Cymru yn erbyn Bwlgaria yng Nghynghrair y Cenhedloedd ym mis Hydref.

Ond dioddefodd y gŵr 28 oed anaf i’w ben-glin ym mis Tachwedd ac ni ddychwelodd ar gyfer Stoke tan ganol mis Mawrth.

“Roedd yn hynod siomedig cael yr anaf hwnnw,” meddai.

“Ond des i’n ôl cyn diwedd y tymor ac fe wnaeth hynny fy rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer y twrnament hwn.

“Mae yna gyffro go iawn o gwmpas y lle ac rydym yn gyffrous i ddechrau arni nawr.

“Mae’r gystadleuaeth rhwng y tri ohonom wedi bod yn dda, a bydd pwy bynnag sy’n cael ei ddewis yn cael cefnogaeth gan y ddau arall.”

Chwaraewyr ifanc Cymru yn ‘uchelgeisiol a pharod’ i lwyddo yn Ewro 2020, medd Rob Page

Bydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch yn erbyn y Swistir yn Baku ddydd Sadwrn (12 Mehefin)