Mae Gareth Williams wedi cael ei benodi i rôl hyfforddi llawn amser gyda Phencampwyr y Chwe Gwlad, Cymru.
Roedd Williams yn rhan o dîm hyfforddi Wayne Pivac yn ystod ymgyrchoedd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a Chwpan y Cenhedloedd Hydref y tymor hwn.
Ond mae bellach yn symud i rôl llawn amser yn yr ‘ardal gyswllt’, gan adael ei swydd bresennol fel prif hyfforddwr Cymru dan 20 a phennaeth pontio chwaraewyr Undeb Rygbi Cymru.
Mae Gareth Williams yn gyn-hyfforddwr rygbi saith-bob-ochr sydd wedi helpu ei wlad i ennill Cwpan y Byd, yn ogystal â chynorthwyo Tîm Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Rio 2016.
Dywedodd prif hyfforddwr Cymru Wayne Pivac: “Mae Gareth yn hyfforddwr gyda chyfoeth o brofiad ar draws y gêm ac mae’n uchel ei barch.
“Roedd yn rhan o’n gwersyll ni yn yr hydref ac eto yn y Chwe Gwlad i redeg yr ardal gyswllt i ni, ac mae wedi gwneud gwaith gwych hyd yma ac mae ganddo barch y chwaraewyr a’r tîm hyfforddi.
“Mae’n wych ein bod bellach yn gallu dod ag ef i mewn i’r tîm hyfforddi mewn rôl llawn amser yn yr hyn sy’n benodiad pwysig i ni.”
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi mai cyn hyfforddwr blaenwyr y Scarlets, Ioan Cunningham, fydd yn olynu Gareth Williams fel prif hyfforddwr Cymru dan 20.