Port Talbot 2–0 Bangor                                                                     

Port Talbot aeth â hi wrth i Fangor ymweld â’r GenQuip yn Uwch Gynghrair Cymru nos Sadwrn.

Rhoddodd Rose y Gwŷr Dur ar y blaen cyn i gôl Hart i’w rwyd ei hun ddyblu’r fantais cyn yr egwyl.

Dechreuodd Port Talbot yn dda ac roedd angen arbediad da gan Connor Roberts yn y gôl i Fangor i atal Jonothan Hood rhag agor y sgorio wedi chwe munud.

Roedd y bêl yn y rhwyd yn y pen arall yn fuan wedyn ond chafodd cynnig taclus Adam Cummings o gic rydd Sion Edwards ddim ei ganiatáu, er nad oedd hi’n amlwg iawn pam!

Y Gwŷr Dur yn hytrach a gafodd y gôl agoriadol wedi deunaw munud, a gôl dda oedd hi hefyd, Chris Jones â’r gwaith creu a Martin Rose yn crymanu’r bêl yn gelfydd i’r gornel isaf o ochr y cwrt cosbi.

Os oedd y gôl gyntaf yn un dda, llanast llwyr oedd yr ail ddau funud yn ddiweddarach. Cafodd amddiffyn Bangor eu curo gan un bêl hi’r o’r cefn, llithrodd Hood y bêl heibio i Roberts, a phan darodd hi’n erbyn y postyn fe wyrodd Sam Hart hi i’w rwyd ei hun.

Cafodd Porya Ahmadi gyfle euraidd i dynnu un yn ôl yn fuan wedyn ond peniodd ymosodwr Bangor dros y trawst o dair llath!

Roedd Bangor yn well wedi’r egwyl ond prin iawn oedd cyfleoedd clir i’r Dinasyddion serch hynny wrth i gyn chwaraewr Abertawe, Alan Tate, reoli pethau yn y cefn i Bort Talbot.

Bu rhaid aros tan chwarter awr o’r diwedd cyn i Steve Cann orfod gwneud arbediad i atal Ryan Edwards. Cafodd cynnig Hart ei glirio oddi ar y llinell yn fuan wedi hynny, a daeth Conah McFenton oddi ar y fainc i gwblhau’r lechen lân gydag arbediad da o beniad Cummings yn yr eiliadau olaf.

Mae’r canlyniad yn codi Port Talbot dros Bangor i’r seithfed safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair. Mae’r Dinasyddion ar y llaw arall yn llithro i’r degfed safle.

.

Port Talbot

Tîm: Cann (McFenton 87’), March, J. Jones, Tate, Long, Fowler, Clarke, Hood, McCreesh, C. Jones (Georgeievsky 90’), Rose (Loveridge 90’)

Goliau: Rose 19’, Hart [g.e.h.] 21’

Cardiau Melyn: J. Jones 60’, Fowler 77’

.

Bangor

Tîm: Roberts, Miley, Clowes, Cummings, Hart, Allen, Young, Langos, R. Edwards, S. Edwards, Ahmadi (Cavanagh 80’)

Cardiau Melyn: Cummings 56’, Hart 70’

.

Torf: 156