Caerdydd 2–0 Reading
Cododd Caerdydd i’r seithfed safle yn y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth yn erbyn Reading yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn.
Sgoriodd Kenwyne Jones a Matt Connolly beniad yr un o bobtu’r egwyl a chadwodd yr Adar Gleision eu pumed llechen lân mewn chwe gêm.
Munud oedd i fynd tan hanner amser pan beniodd Jones y tîm cartref ar y blaen o gic rydd Joe Ralls.
Chwaraeodd Ralls ei ran yn yr ail gôl hefyd wrth i Connolly ddyblu’r fantais yn gynnar yn yr ail gyfnod gyda pheniad o gic gornel y chwaraewr canol cae.
Bu rhaid i’r golwr, David Marshall, fod yn effro yn yr hanner awr olaf wrth i Reading geisio dod o hyd i ffordd yn ôl i’r gêm, ond daliodd Caerdydd eu gafael i sicrhau buddugoliaeth dda.
Mae’r canlyniad yn eu codi dros Reading i’r seithfed safle yn y tabl.
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Peltier, Morrison, Connolly, Malone, Noone, Gunnarsson, Ralls, Pilkington (O’Keefe 87′), Mason (Ameobi 63′), Jones (Saadi 77′)
Goliau: Jones 44’, Connolly 53’
Cardiau Melyn: Noone 36’, Peltier 75’, Morrison 88’
.
Reading
Tîm: Al Habsi, Gunter, Hector, Ferdinand, A Taylor, Norwood, Fernández Iglesias (Williams 64′), Blackman, Vydra (Hurtado 76′), John (Liburd 64′), Sá
Cerdyn Melyn: Williams 90’
.
Torf: 15,414