Leeds 1–0 Caerdydd                                                                          

Colli oedd hanes Caerdydd wrth iddynt ymweld ag Elland Road i herio Leeds yn y Bencampwriaeth nos Fawrth.

Alex Mowatt sgoriodd unig gôl y gêm i’r tîm cartref toc wedi’r awr.

Gyda Leeds heb ennill adref ers saith mis a Chaerdydd wedi sgorio dim ond un gôl mewn pedair gêm, roedd hon yn edrych fel gêm gyfartal ddi sgôr o’r dechrau.

Ac felly yr oedd hi am dros awr o chwarae, cyn i Mowatt roi Leeds ar y blaen wedi 63 munud, a hynny mewn steil.

Cafodd chwaraewr canol cae Leeds lawer gormod o le gan Peter Wittingham a gwnaeth y gorau ohono gan danio ergyd wych i’r gornel uchaf o dri deg llath. Gôl a oedd yn haeddu ennill gêm heb os.

Mae’r Adar Gleision yn aros yn nawfed yn nhabl y Bencampwriaeth yn dilyn y canlyniad.

.

Leeds

Tîm: Silvestri, Wootton, Bellusci, Cooper, Berardi, Dallas (Byram 82′), Murphy, Cook, Mowatt (Phillips 87′), Antenucci (Doukara 93′), Wood

Gôl: Mowatt 63’

Cerdyn Melyn: Bellusci 67’

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Peltier, Morrison, Connolly, Malone, Noone (Ameobi 60′), Gunnarsson, Whittingham (Pilkington 78′), Ralls, Mason, Revell (Jones 69′)

Cerdyn Melyn: Wittingham 20’

.

Torf: 17,914