Aaron Ramsey
Mae Aaron Ramsey yn debygol  o fod allan am rai wythnosau ar ôl anafu llinyn y gâr ym muddugoliaeth Arsenal yn erbyn Bayern Munich yng Nghynghrair y Pencampwyr neithiwr.

Daeth y Cymro oddi ar y cae ar ôl 57 munud o’r gêm neithiwr ar ôl tynnu’r cyhyr unwaith eto, ac mae’n bosib nawr na fydd yn ffit ar gyfer gemau cyfeillgar Cymru ym mis Tachwedd.

Roedd Ramsey wedi sgorio dwy gôl yn yr wythnos diwethaf dros ei wlad a’i glwb, ac yn dechrau edrych fel ei fod nôl at ei orau, felly fe fydd yr anaf diweddaraf yn ergyd fawr iddo.

Mae eisoes wedi brifo llinyn y gâr ddwywaith llynedd, ac mae hefyd wedi bod yn cael problemau â’i glun dros y blynyddoedd diwethaf.

Daw anaf Ramsey ddiwrnod ar ôl i Gareth Bale gael ei feio gan y wasg yn Sbaen am chwarae dwy gêm dros Gymru’r wythnos diwethaf sydd wedi achosi anaf arall i groth ei goes.