Wycombe 0–2 Casnewydd                                                             

Cafodd Casnewydd fuddugoliaeth wych oddi cartref yn Wycombe nos Fawrth, ail fuddugoliaeth yn unig o’r tymor i Alltudion.

Sicrhaodd Scott Boden y fuddugoliaeth yn Adams Park wedi i gôl i’w rwyd ei hun gan un o chwaraewyr Wycombe roi’r ymwelwyr o Gymru ar y blaen.

Ychydig dros awr oedd ar y cloc pan wyrodd y bêl yn greulon oddi ar Marcus Bean i gefn y rhwyd.

Cafodd Lenell John-Lewis a Zak Ansah gyfleoedd i ddyblu’r fantais, ond bu rhaid aros tan funud o ddiwedd y naw deg cyn i gynnig isel Boden ddiogelu’r pwyntiau.

Mae Casnewydd yn aros ar waelod tabl yr Ail Adran er gwaethaf y fuddugoliaeth, ond dim ond gwahaniaeth goliau sydd yn eu gwahanu hwy a Yeovil a Dagenham & Redbridge yn y ddau safle uwch eu pennau.

.

Wycombe

Tîm: Ingram, Harriman, Jombati, McCarthy, Jacobson, Kretzschmar (Wood 68′), Bean (McGinn 80′), O’Nien, Thompson, Holloway, Ugwu (Hayes 55′)

Cerdyn Melyn: McCarthy 52’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Donacien, Partridge, Bennett, Barnum-Bobb, Elito, O’Sullivan (Klukowski 91′), Byrne, Barrow, Ansah (Boden 75′), John-Lewis

Goliau: Bean [g.e.h.] 62’, Boden 89’

Cardiau Melyn: O’Sullivan 74’, Barnum-Bobb 85’

.

Torf: 2,940