Caerdydd 1–0 Middlesbrough                                                      

Roedd gôl hwyr George Friend i’w rwyd ei hun yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Gaerdydd wrth i Middlesbrough ymweld â phrifddinas Cymru yn y Bencampwriaeth nos Fawrth.

Roedd un gôl yn ddigon i setlo gêm a chwaraewyd o flaen torf gynghrair leiaf yr Adar Gleision ers symud i Stadiwm y Ddinas.

Caerdydd a gafodd y gorau o hannar cyntaf braidd yn ddi fflach. Cafodd Craig Noone a Peter Wittingham hanner cyfleoedd ond di sgôr oedd hi ar yr egwyl.

Roedd Middlesbrough yn well wedi’r egwyl ac roedd angen arbediad gwych gan David Marshall i atal David Leadbitter rhag rhoi’r ymwelwyr ar y blaen.

Yna, bedwar munud yn unig o ddiwedd y naw deg fe wyrodd gôl-geidwad Boro, Dimi Konstantopoulos, gynnig Joe Mason yn syth at Friend ac adlamodd y bêl i gefn y rhwyd.

Gôl ffodus iawn i Gaerdydd felly ond fydd yr Adar Gleision ddim yn cwyno wrth i’w buddugoliaeth gyntaf mewn tair gêm eu codi i’r wythfed safle yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Peltier, Morrison, Connolly, Fabio, Noone, Gunnarsson (O’Keefe 80′), Dikgacoi, Whittingham, Mason (Malone 90′), Revell (Ameobi 76′)

Gôl: Friend [g.e.h.] 86’                                                                                                            

Cardiau Melyn: Gunnarsson 65’, Noone 90’

.

Middlesbrough

Tîm: Konstantopoulos, Kalas, Ayala, Amorebieta, Friend, Clayton, Leadbitter (Forshaw 80′), Adomah (Kike 89′), Fabbrini (Nsue 84′), Downing, Nugent

Cardiau Melyn: Ayala 23’, Clayton 50’

.

Torf: 13,371