Craig Joubert
Mae World Rugby wedi cyfaddef bod y penderfyniad dadleuol hwyr a wnaeth y dyfarnwr Craig Joubert yn y gêm rhwng yr Alban ac Awstralia yng Nghwpan y Byd yn un anghywir.

Fe gollodd yr Albanwyr o 35-34 ar ôl i’r dyfarnwr roi cic gosb hwyr i’r Awstraliaid, a hynny ar ôl iddyn nhw frwydro’n wych i aros yn y gêm a mynd ar y blaen ag ond ychydig funudau i fynd.

Ond mae’r awdurdodau rygbi bellach wedi cadarnhau fod Joubert wedi gwneud y penderfyniad anghywir, ac y dylai Awstralia fod wedi cael sgarmes yn lle’r gic gosb a enillodd y gêm iddyn nhw.

Ers y canlyniad dydd Sul mae sylwebwyr a chwaraewyr o’r Alban a thu hwnt wedi beirniadu’r penderfyniad yn hallt, ond heddiw fe fynnodd hyfforddwr Awstralia Michael Cheika ei bod hi’n bryd rhoi’r gorau i feio’r dyfarnwr.

‘Gadewch lonydd iddo’

Byddai’r Alban wedi cyrraedd rownd gynderfynol y twrnament petai nhw heb ildio’r gic gosb hwyr honno, a hynny ar ôl i Joubert gosbi un o’r Albanwyr am gamsefyll.

Ond dangosodd y llun fideo o’r digwyddiad mai chwaraewr Awstralia oedd yr olaf i gyffwrdd â’r bêl cyn y drosedd, ac felly na ddylai’r gic gosb fod wedi cael ei rhoi.

Yn ôl y rheolau doedd y dyfarnwr ddim yn cael mynd at y dyfarnwr fideo i ailedrych ar y penderfyniad hwnnw, ond yn ôl Michael Cheika mae’r ffordd y mae wedi cael ei drin ers y gêm yn hynod o annheg.

“Dw i erioed wedi gweld hynny o’r blaen. Dw i ddim yn siŵr pam bod rhaid i’r penderfyniad gael ei adolygu’n gyhoeddus a’i roi allan yno,” meddai, gan awgrymu na ddylai World Rugby fod wedi gwneud y cyfaddefiad cyhoeddus.

“Mae’n syndod achos does dim penderfyniad arall yn y twrnament wedi cael ei adolygu. Os mai dyma sydd am ddigwydd wedyn fe fydd pob tîm yn gwneud rhestr cyn hired â’u braich.”