Woking 0–1 Wrecsam
Roedd un gôl yn ddigon i Wrecsam wrth iddynt drechu Woking yn Stadiwm Kingfield yn y Gynghrair Genedlaethol brynhawn Sadwrn.
Connor Jenning sgoriodd y gôl honno wedi ychydig llai na hanner awr o chwarae yn yr hanner cyntaf.
Gôl daclus oedd hi hefyd, cyd chwarae da rhwng Jennings a Dominic Vose a Jennings yn llithro’r bêl heibio i Jake Cole yn y gôl.
Chwaraeodd Wrecsam dros chwarter y gêm yn erbyn deg dyn wedi i Brian Saah dderbyn ail gerdyn melyn hanner ffordd trwy’r ail hanner.
Cael a chael oedd hi i’r Dreigiau serch hynny ond fe wnaethant ddigon i sicrhau’r tri phwynt yn y diwedd, eu buddugoliaeth gyntaf mewn saith gêm.
Mae’r canlyniad yn gadael Wrecsam yn nawfed yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol.
.
Woking
Tîm: Cole, Caprice (Pattie 74′), Saah, Thomas, Arthur, Jones, Daniel (Andrade 46′), Poku (Sole 68′), Keohane, Goddard, Holman
Cardiau Melyn: Saah 45’, 65’, Goddard 83’
Cerdyn Coch: Saah 65’
.
Wrecsam
Tîm: Belford, Vidal, Smith, Hudson, Fyfield, Newton, Carrington, Evans (Nolan 44′), Jennings, Vose, Jackson (York 74′)
Gôl: Jennings 28’
Cerdyn Melyn: Vose 86’
.
Torf: 1,778