Casnewydd 0–1 Portsmouth                                                          

Cipiodd Portsmouth y pwyntiau i gyd wrth ymweld â Rodney Parade i wynebu Casnewydd yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Matt Tubbs sgoriodd unig gôl y gêm i’r ymwelwyr a hynny yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf.

Roedd hi’n ymddangos fod y 45 munud cyntaf yn mynd i orffen yn ddi sgôr ond newidiodd hynny pan sgoriodd Tubbs yn yr ail funud o amser a ganiateir am anafiadau, yn rhwydo wedi i Kyle Bennett ddod o hyd iddo ar ochr y cwrt chwech.

Ychydig o’r meddiant a gafodd Casnewydd trwy gydol y gêm ond roeddynt yn meddwl eu bod wedi sgorio pan rwydodd Lenell John-Lewis, ond ni chafodd y gôl ei chaniatáu oherwydd trosedd.

Mae’r canlyniad yn gadael Casnewydd ar waelod tabl yr Ail Adran.

.

Canewydd

Tîm: Day, Donacien, Bennett, Partridge, Barnum-Bobb, Byrne, O’Sullivan, Elito, Barrow (Rodman 65′), Ansah (Boden 59′), John-Lewis (Collins 64′)

Cerdyn Melyn: Barrow 46’

.

Portsmouth

Tîm: McCarey, Davies, Burgess, Webster, Stevens, Naismith (Boco 59′), Doyle, Roberts, Bennett, Barton (Hollands 68′), Tubbs (Lavery 75′)

Gôl: Tubbs 45’

Cerdyn Melyn: Stevens 85’

.

Torf: 3,298