Preston 0–0 Caerdydd                                                                      

Di sgôr oedd hi yn Deepdale brynhawn Sadwrn wrth i Gaerdydd deithio i herio Preston yn y Bencampwriaeth.

Joe Mason a ddaeth agosaf i Gaerdydd mewn hanner cyntaf diflas ond aros yn ddi sgôr wnaeth hi tan yr egwyl.

Doedd yr ail hanner fawr gwell ond gallai Peter Wittingham fod wedi ei hennill hi yn hwyr gyda chic rydd nodweddiadol ond roedd Jordan Pickford yn y gôl i’r tîm cartref yn ddigon effro i’w harbed hi.

Mae’r pwynt yn codi Preston oddi ar waelod y Bencampwriaeth ond mae Caerdydd yn aros yn wythfed.

.

Preston

Tîm: Pickford, Woods, Clarke (Vermijl 71′), Wright, Cunningham, Reach, Gallagher, Welsh (Browne 69′), Johnson, May (Keane 68′), Hugill

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Peltier, Morrison, Connolly, Malone, Pilkington (Revell 76′), Dikgacoi, Whittingham, Ralls (Noone 45′), Ameobi (John 90′), Mason

Cerdyn Melyn: Connolly 74’

.

Torf: 11,125