Mae’n ymddangos y gallai Cymru fod ymhlith y detholion isaf ar gyfer grwpiau Ewro 2016, sy’n golygu y bydd rhaid iddyn nhw wynebu un o’r prif ddetholion yn Ffrainc fis Mehefin nesaf.
Mae un o’r prif ddetholion – Ffrainc, Sbaen, Yr Almaen, Portiwgal, Gwlad Belg a Lloegr – yn ymddangos ym mhob grŵp.
Yng ngrŵp 4 gyda Chymru, yn ôl pob tebyg, fydd Gogledd Iwerddon, Albania a Gwlad yr Iâ, ynghyd â dwy wlad arall, sy’n golygu na fydd yr un ohonyn nhw’n gallu bod yn yr un grŵp â Chymru yn y gystadleuaeth.
Mae’r detholion yn cael eu dewis yn ôl eu record mewn cystadlaethau a gemau rhagbrofol y gorffennol.
Y timau yn yr ail grŵp o ddetholion yw Awstria, Croatia, Yr Eidal, Rwsia a’r Swistir, gydag un tîm arall i’w ychwanegu.
Bydd chwe grŵp o bedwar tîm yr un yn herio’i gilydd yn y rowndiau terfynol yn Ffrainc, gyda dau o bob grŵp, a’r timau trydydd safle gorau yn symud ymlaen i’r ail rownd o 16.
Gorffennodd Cymru’n ail yn eu grŵp rhagbrofol y tu ôl i Wlad Belg, yn dilyn buddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Andorra yng Nghaerdydd nos Fawrth.