Daeth prosiect amrywiaeth o Gymru i’r brig yng Ngwobrau Criced Asiaidd Prydain mewn seremoni fawreddog yn Lord’s yn Llundain nos Fawrth.
Aeth y wobr Amrywiaeth i brosiect ‘Criced Heb Ffiniau’, sydd wedi’i drefnu gan Glwb Criced Morgannwg a chorff Criced Cymru.
Roedd Mark Frost, sy’n gweithio i Glwb Criced Morgannwg a Chriced Cymru, a Phrif Weithredwr Criced Cymru, Peter Hybart yn y seremoni i gasglu’r wobr.
Daeth Morgannwg i frig y rhestr fer oedd yn cynnwys Swydd Gaerhirfryn a Swydd Gaerlŷr.
Nod y prosiect yw gwneud criced yn fwy hygyrch i’r gymuned croenddu a lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd, a chreu rhwydwaith sy’n gallu cynyddu nifer y bobol o’r cefndiroedd hynny sy’n chwarae criced.
Prif gynulleidfa darged y prosiect yw pobol ifanc 13-25 oed, ac maen nhw’n darparu sesiynau a chlybiau awyr agored a dan do yn y gymuned.
Caiff y prosiect ei ariannu drwy gronfa Chwaraeon Cymru, ac mae ganddo nifer o bartneriaid.
Enwebiadau eraill
Roedd enwebiadau i ddau unigolyn o Gaerdydd sydd wedi bod yn allweddol i ddatblygiad criced yn y gymuned Asiaidd yn y brifddinas.
Roedd cadeirydd Clwb Criced Asiaid Cymru, Sohail Rauf ar y rhestr fer ar gyfer y wobr Ysbrydoliaeth, a hynny am ei waith fel hyfforddwr ac ysgrifennydd cynghrair Morgannwg a Sir Fynwy.
Mae e hefyd ynghlwm wrth sefydlu’r Cyngor Criced Asiaidd Cenedlaethol, fydd yn cydweithio’n uniongyrchol yn y pen draw â Bwrdd Criced Cymru a Lloegr.
Roedd Hannaa Zaman wedi’i henwebu ar gyfer gwobr Menywod mewn Criced, a hynny am ei gwaith fel hyfforddwraig gyda Chlwb Criced Morgannwg, Criced Cymru a’r MCC dros gyfnod o ddeng mlynedd.
Mae hi’n gyfrifol am hyfforddi chwaraewyr lleol, timau ysgolion a chwaraewyr élit, yn ogystal ag annog rhagor o ferched o leiafrifoedd ethnig i gymryd rhan yn y byd criced.