Y stadiwm cyn gem Cymru v Andorra neithiwr
Mae chwaraewyr Cymru’n llawn haeddu cael eu galw’n “genhedlaeth aur” bellach, yn ôl y rheolwr sydd wedi eu harwain i Ewro 2016.

Fe ddathlodd Cymru’r ffaith eu bod wedi cyrraedd Ffrainc y flwyddyn nesaf o flaen eu torf gartref yng Nghaerdydd neithiwr wrth iddyn nhw drechu Andorra 2-0.

Mae’n golygu bod 58 mlynedd o fethu â chyrraedd pencampwriaethau rhyngwladol, a’r pwysau oedd yn deillio o hynny, ar ben.

“Fe ddywedodd lot o bobl wrtha’ i yn fy ymgyrch gyntaf bod y rhain yn genhedlaeth aur. Roeddwn i wastad yn anghytuno, achos doedden nhw ddim wedi’i haeddu e eto er bod gyda nhw’r potensial,” meddai Coleman.

“Ond nawr maen nhw wedi haeddu’r label ac wedi mynd yn bellach nag unrhyw un ers 1958.”

Creu hanes

Cafodd chwaraewyr Cymru i gyd eu cyflwyno’n unigol i’r dorf ar ddiwedd y gêm neithiwr, cyn cymryd eu hamser yn gadael y cae wrth iddyn nhw ddathlu gyda’r cefnogwyr.

“Roedd yr awyrgylch yn grêt ac mae’r cefnogwyr wedi haeddu hynny achos o’r gefnogaeth gref maen nhw wedi’i roi i ni, gartref ac oddi cartref,” meddai Coleman.

“Mae’n noson wnâi fyth anghofio.

“Mae’r grŵp o chwaraewyr yma wedi cyflawni o’r diwedd. Bydd hanes yn eu cofio am byth, a hynny’n haeddiannol.”