Cipiodd tîm pêl-droed Casnewydd, sydd ar frig yr Ail Adran, bwynt yn erbyn Walsall yn Rodney Parade neithiwr (nos Fawrth, Tachwedd 24).

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen drwy Elijah Adebayo ar ôl 21 munud, cyn i Scott Twine ymateb i gamgymeriad y golwr Liam Roberts funud yn ddiweddarach i’r Alltudion, sydd driphwynt ar y blaen i Cheltenham ar y brig erbyn hyn.

Arhosodd Casnewydd yn gryf drwy gydol yr ail hanner, a gallen nhw fod wedi cipio’r gôl fuddugol pan gafodd Matthew Dolan gyfle hwyr oddi ar gic rydd, a aeth heibio’r postyn.