Fe fydd Cymru’n defnyddio’r profiad o weld tîmau eraill yn dathlu sicrhau eu lle mewn pencampwriaethau rhyngwladol yn sbardun ychwanegol er mwyn sicrhau eu lle nhw yn Ewro 2016 yr wythnos yma.
Dyna oedd gan aelod mwyaf profiadol carfan Cymru i’w ddweud, wrth i’r tîm baratoi i herio Bosnia-Herzegovina nos Sadwrn ac Andorra nos Fawrth a cheisio cipio’r pwynt sydd ei angen i gyrraedd y rowndiau terfynol yn Ffrainc y flwyddyn nesa’.
Byddai cyrraedd yr Ewros – y tro cyntaf i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol cystadleuaeth ryngwladol ers 1958 – yn rhywbeth y byddai’n ei drysori am weddill ei fywyd yn ôl Chris Gunter.
Yn ôl yr amddiffynnwr 26 oed, sydd eisoes wedi ennill 61 o gapiau, mae’r profiad rhyngwladol sydd gan lawer o’r garfan bellach yn golygu eu bod yn teithio i Bosnia yn hyderus o allu cael y canlyniad sydd ei angen.
Pod pêl-droed Golwg360 cyn gemau Cymru yn erbyn Bosnia ac Andorra:
Cenfigen
Ddwy flynedd yn ôl fe deithiodd Cymru i Frwsel i herio Gwlad Belg ar ddiwedd eu hymgyrch aflwyddiannus i gyrraedd Cwpan y Byd 2014.
Ond fe fuon nhw’n dystion i ddathlu mawr gan y Belgiaid ar ôl y gêm, wrth iddyn nhw sicrhau eu lle ym Mrasil, ac mae Gunter yn cyfaddef bod y genfigen yr oedd e’n ei deimlo’r noson honno wedi bod yn rhywfaint o ysgogiad i dîm Cymru.
“Rydyn ni’n ddynol ar ddiwedd y dydd, ac roedden ni’n teimlo y byddai’n wych petai’r garfan yn gallu profi’r teimlad yna yn y gêm gartref olaf, mwynhau’r profiad gan wybod beth sydd i ddod yn yr wyth neu naw mis nesa’,” meddai Gunter.
“Rydyn ni wedi rhoi ein hunain mewn safle grêt [y tro yma]. Ond roedd y noson yna wedi rhoi blas i ni o sut fyddai hi petaen ni fyth yn y sefyllfa yna. Gobeithio mai ni fydd yn profi’r tro yma beth wnaethon ni weld yn digwydd y noson honno.”
Edrych yn ôl â balchder
Er mai Gunter sydd â’r nifer fwyaf o gapiau yn y garfan bresennol mae’n mynnu nad yw’n ystyried ei hun yn hen ben eto.
Gyda sawl un arall o’r garfan yn gymharol ifanc ond yn brofiadol iawn, roedd Gunter yn pwysleisio eu bod felly’n “gwybod beth i’w ddisgwyl” wrth deithio i lefydd heriol fel Bosnia – ond fe fyddai llwyddiant fory yn fwy na chyfri capiau.
“Byddai’n wych gallu dweud ein bod ni wedi ennill 100 cap, ond byddai hyd yn oed yn well gallu dweud ‘Ydych chi’n cofio’r gêm yna ble enillon ni ein lle mewn twrnament’, neu haf ble gawson ni ganlyniad gwych yn y gystadleuaeth ei hun,” meddai Gunter.
“Rydyn ni eisiau bod yn rhan o rywbeth, fel tîm, y gallwn ni edrych yn ôl arno pan fyddwn ni wedi ymddeol a bod yn falch ohono.”
Stori: Iolo Cheung