Mae disgwyl i Gareth Bale ymuno â charfan Cymru heddiw (llun: Nick Potts/PA)
Mae’n falch gan Cip ar y Cymry ddweud am unwaith bod y dydd Llun yma cyn gemau rhyngwladol Cymru yn un lle cewch chi ochneidio mewn rhyddhad.
Ar ôl croesi ei fysedd drwy’r penwythnos fe fydd Chris Coleman yn croesawu’r garfan i Fro Morgannwg heddiw yn falch o weld bod pob un wedi dod drwy eu gemau clwb dros y penwythnos heb anaf.
Mae hynny’n cynnwys Gareth Bale, a ddaeth oddi ar y fainc am 25 munud wrth i Real Madrid gael gêm gyfartal o 1-1 yn y ddarbi fawr yn erbyn Atletico neithiwr.
Roedd sawl un o Gymry Uwch Gynghrair Lloegr hefyd yn chwarae dydd Sul, gyda Joe Allen yn dod ymlaen am 11 munud mewn darbi arall wrth i Lerpwl ac Everton rannu’r pwyntiau.
Cafodd Aaron Ramsey brynhawn i’w gofio gydag Arsenal wrth iddyn nhw chwalu Man United o 3-0, gyda’r Cymro’n chwarae rhan fawr yn nau o goliau ei dîm, ond yn methu cyfle euraidd ei hun i sgorio.
Yn Abertawe roedd Coleman a’i is-reolwr Osian Roberts, fodd bynnag, a hynny er mwyn gwylio Ashley Williams, Neil Taylor a Ben Davies yn chwarae gemau llawn wrth i gêm rhwng Spurs a’r Elyrch orffen yn 2-2.
Dydd Sadwrn fe gadwodd Wayne Hennessey ei ail lechen lân yn olynol wrth i Crystal Palace drechu West Brom 2-0. Chafodd James Chester ddim gêm wych yn amddiffyn y gwrthwynebwyr, ac fe ddaeth Joe Ledley oddi ar y fainc i Palace yn y munud olaf.
Daeth Andy King oddi ar y fainc am 13 munud wrth i Gaerlŷr drechu Norwich o 2-1, ac fe ymddangosodd James Collins fel eilydd i West Ham hefyd wrth iddyn nhw gipio pwynt yn Sunderland.
Y Bencampwriaeth
Yn y Bencampwriaeth dydd Sul fe ddaeth timau Morgan Fox a Jazz Richards benben â’i gilydd wrth i Charlton a Fulham rannu’r pwyntiau gyda gêm gyfartal o 2-2.
Roedd Reading yn fuddugol o 2-0 yn erbyn Middlesbrough, gyda Hal Robson-Kanu yn croesi ar gyfer gôl agoriadol Nick Blackman wedi 15 eiliad yn unig, a Chris Gunter yn chwarae gêm lawn.
Yn y gêm nos Wener roedd gôl hwyr Sam Vokes yn ddigon i ennill y gêm i Burnley o 2-1 yn erbyn Rotherham, gyda’r ymosodwr yn ymateb gyntaf ar ôl i’r golwr arbed un ergyd.
Yng ngemau eraill y gynghrair fe ddechreuodd Joel Lynch, Emyr Huws, Tom Lawrence, Adam Henley, Simon Church, David Cotterill a David Vaughan i’w clybiau.
Daeth Dave Edwards oddi ar y fainc i Wolves, ond aros ymysg yr eilyddion wnaeth Jonny Williams, Andrew Crofts, Stephen Doughty a Rhoys Wiggins.
Yn Uwch Gynghrair yr Alban fe gafodd Danny Ward ac Ash Taylor brynhawn trychinebus wrth i’w tîm nhw golli 5-1 gartref yn erbyn St Johnstone, er i Taylor benio unig gôl ei dîm.
Ond fe gipiodd Inverness fuddugoliaeth arall, yn erbyn Ross County o 2-1 y tro hwn, gydag Owain Fôn Williams yn y gôl unwaith eto.
Ac yng Nghynghrair Un doedd dim lwc o flaen y gôl i Tom Bradshaw, sydd heb gael ei alw i garfan Cymru, wrth i’r gêm rhwng Walsall a Wigan orffen yn ddi-sgôr.
Seren yr wythnos – Sam Vokes. Dangos greddf ymosodwr da i gipio’r gôl seliodd y fuddugoliaeth i’w dîm.
Siom yr wythnos – Tom Bradshaw. Er bod ganddo eisoes wyth gôl i Walsall y tymor hwn, dydi o dal heb wneud digon i ddarbwyllo Chris Coleman ei fod yn haeddu lle yn y garfan ryngwladol.