Mae Elfyn Evans o Ddolgellau wedi gorffen yn ail yn y Tour de Corse, cymal Ffrengig Pencampwriaeth Ralio’r Byd yr FIA.
Ail yw ei safle gorau erioed mewn ras, gan guro’r trydydd safle a gafodd yn yr Ariannin, y tro cyntaf iddo ymddangos ar y podiwm.
Roedd Evans yn ail y tu cefn i Jari-Matti Latvala o’r Ffindir y tro hwn.
Hwn hefyd yw’r safle gorau erioed mewn ras i Gymro ym Mhencampwriaeth Ralio’r Byd.
Gorffennodd y cyn-yrrwr F1, Tom Pryce o Ruthun yn drydydd ddwy waith yn ystod ei yrfa.
Yn dilyn ei lwyddiant, dywedodd Elfyn Evans: “Dw i’n credu ei bod yn deg dweud ei bod hi wedi bod yn uffar o wythnos i chwaraeon yng Nghymru!”
Dywedodd fod y canlyniad yn “gyflawniad gwych”.
“Does dim angen dweud ein bod ni wrth ein bodd efo’r canlyniad. A diolch hefyd i bawb sydd wedi bod yn anfon eu negeseuon o gefnogaeth. Dw i heb eu darllen nhw i gyd eto, ond mi fydda i’n sicr yn neilltuo amser i wneud hynny!”
Bydd Evans yn cystadlu yn Sbaen yn ddiweddarach y mis yma, ac yn y cymal yng Nghymru sy’n dechrau ar Dachwedd 12.