Cafodd Abertawe eu trechu’n gyfforddus gan Southampton wrth i’r Elyrch fethu ag ennill am y pedwaredd gêm yn olynol.

Fe reolodd y Seintiau’r hanner cyntaf, ac roedden nhw ar y blaen wedi 11 munud ar ôl i Virgil van Dijk benio i’r rhwyd o gic gornel.

Daeth Jefferson Montero ac Eder oddi ar y fainc am Jack Cork a Bafetimbi Gomis ar yr egwyl, wrth i reolwr Abertawe Garry Monk geisio newid pethau.

Ond fe ddyblodd Dusan Tadic fantais Southampton ar ôl 54 munud, a thoc wedi awr o chwarae roedd Sadio Mane wedi rhoi’r tîm cartref 3-0 ar y blaen.

Sgoriodd Gylfi Sigurdsson gic o’r smotyn i Abertawe ar ôl 83 munud wedi i Jose Fonte faglu Neil Taylor, ond gôl gysur yn unig oedd hi i’r Elyrch sy’n llithro i 11eg yn yr Uwch Gynghrair.