Mae Caerdydd wedi codi i’r pumed safle yn y Bencampwriaeth ar ôl buddugoliaeth o 2-1 yn erbyn Charlton.
Yr ymwelwyr oedd y cyntaf i sgorio yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda Karlan Ahearne-Grant yn dod oddi ar y fainc ar yr egwyl a rhwydo o fewn pedwar munud.
Ar ôl 52 munud fodd bynnag roedd Caerdydd yn hafal, wrth i Scott Malone ganfod Joe Mason yn y cwrt cosbi.
A gyda chwarter awr i fynd, fe beniodd Sean Morrison o gic gornel Peter Whittingham i roi’r Adar Gleision ar y blaen a sicrhau’r tri phwynt.