Garry Monk
Mae Garry Monk ymysg ceffylau blaen y bwcis i fod yn rheolwr nesaf Lerpwl os yw’r clwb yn penderfynu cael gwared â Brendan Rodgers.

Bu’r gŵr o Ogledd Iwerddon dan bwysau’r tymor yma ar ôl dechrau siomedig Lerpwl yn y gynghrair, a nos Fercher dim ond ar giciau o’r smotyn y llwyddon nhw i drechu Carlisle o Gynghrair Dau yng Nhwpan Capital One.

Ar y llaw arall mae Gary Monk, a arweiniodd Abertawe i’w tymor gorau erioed yn yr Uwch Gynghrair llynedd, wedi dechrau’n dda unwaith eto eleni ac yn cael ei ystyried yn un o’r rheolwyr mwyaf addawol ym Mhrydain.

Cyn-reolwr Borussia Dortmund Jurgen Klopp, a chyn-reolwr Real Madrid Carlo Ancelotti – y ddau ohonyn nhw allan o waith ar hyn o bryd – yw’r ddau brif ffefryn.

Mae Garry Monk, fodd bynnag, hefyd wedi cael ei grybwyll fel un o’r ceffylau blaen ochr yn ochr ag enwau fel Andre Villas-Boas, Jurgen Klinsmann a Frank de Boer.

Brendan ar erchwyn y dibyn

Mae Brendan Rodgers ei hun hefyd wedi cyfaddef yr wythnos hon ei fod yn teimlo dan bwysau a’i fod yn cydnabod nad yw ei swydd yn saff bellach.

Petai Lerpwl yn penderfynu mynd ar ôl Monk fel eu rheolwr nesaf, dyna fyddai’r ail waith o fewn ychydig flynyddoedd i’r clwb o Lannau Merswy fynd i Abertawe i chwilio am fos newydd.

Brendan Rodgers oedd y rheolwr a arweiniodd Abertawe i’r Uwch Gynghrair, cyn cael ei benodi gan Lerpwl yn 2012.

Cyn rhoi’r swydd i Rodgers roedd Lerpwl hefyd wedi ystyried Roberto Martinez, cyn-reolwr arall Abertawe oedd â Wigan ar y pryd ond sydd yn bellach yn rheolwr ar Everton.