Dagenham & Redbridge 0–0 Casnewydd                                 

Di sgôr oedd hi wrth i Gasnewydd ymweld â Ffordd Victoria i herio Dagenham & Redbridge yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn. Hwn oedd ail bwynt yn unig i’r Alltudion yn y gynghrair y tymor hwn.

Lenell John-Lewis gafodd gyfle gorau’r tîm cartref yn yr hanner cyntaf ond anelu heibio’r postyn oedd ei hanes cyn gorfod gadael y cae gydag anaf.

Jamie Cureton a’r ymwelwyr a ddaeth agosaf yn yr ail gyfnod ac roedd rhaid i Joe Day yn y gôl i Gasnewydd fod yn effro i wyro ei gynnig dros y trawst.

Mae pwynt yn well na dim i Gasnewydd ond bydd rhaid iddynt dargedu gemau cartref yn erbyn timau eraill tua’r gwaelodion os am gasglu digon o bwyntiau i aros yn yr Ail Adran y tymor hwn. Hwn oedd eu hail bwynt yn unig ac maent yn aros ar waelod y tabl.

.

Dag & Red

Tîm: O’Brien, Passley, Obileye, Nosworthy, Widdowson, Hines (Jones 70′), Ferdinand, Boucaud, Hemmings, McClure, Doidge (Cureton 45′)

.

Casnewydd

Tîm: Day, Holmes, Partridge, Parselle, Barrow, Ofori-Twumasi, Byrne, Owen-Evans, Elito (Bamford 90′), John-Lewis (Ansah 45’ (Laurent 71′)), Collins

.

Torf: 1,654