Mae David Brooks yn barod am y frwydr i gadw Bournemouth yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Chwaraeodd asgellwr Cymru yn ei gêm gyntaf ers dychwelyd o anaf i’w ffer ddydd Sadwrn (Mehefin 19), wrth i Bournemouth golli o 2-0 yn erbyn Crystal Palace.

Dyma oedd y tro cyntaf i’r Cymro chwarae ers 12 mis ac mae’r golled yn golygu bod Bournemouth yn y safleoedd disgyn.

“Rydym i gyd yn ymwybodol o’r sefyllfa rydym ynddi,” meddai David Brooks.

“Mae’n amser i ni ddangos beth allwn ni wneud a cheisio cael ein hunain allan o’r sefyllfa rydym wedi rhoi ein hunain ynddo.”

Golygodd anaf mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Brentford fis Gorffennaf y llynedd fod David Brooks wedi methu dechrau’r tymor, ond daeth i’r amlwg fod yr anaf yn fwy difrifol gyda’r asgellwr yn derbyn ail lawdriniaeth ar ei ffer fis Rhagfyr.

Ond nawr ei fod yn holliach, dywed David Brooks ei fod yn falch o gael chwarae eto.

“Mae hi wedi bod yn anodd gwylio’r bechgyn, yn enwedig gyda’r ffordd mae’r canlyniadau wedi mynd, ti eisiau bod ar y cae gyda nhw a cheisio helpu,” meddai.

“Ond roedd yr anaf tu hwnt i fy rheolaeth, roedd yn rhaid i fi weithio’n galed er mwyn dychwelyd wrth i’r tymor ail ddechrau a dw i’n ddiolchgar fy mod i wedi llwyddo i wneud hynny.”