Gateshead 2–1 Wrecsam                                                                

Mae rhediad gwael Wrecsam yn parhau wedi iddynt golli oddi cartref yn erbyn Gateshead yn y Gynghrair Genedlaethol nos Fawrth.

Yn dilyn dechrau da i’r tymor mae’r Dreigiau bellach heb ennill mewn tair ac yn dechrau llithro i lawr y tabl.

Rhoddodd cic rydd Josh Gillies y tîm cartref ar y blaen wedi dim ond 17 munud yn Stadiwm Rhyngwladol Gateshead.

Roedd Wrecsam yn gyfartal wedi llai na hanner awr diolch i gic rydd daclus arall, gan Sean Newton y tro hwn.

Gateshead aeth â hi serch hynny diolch i gôl fuddugol Ryan Bowman yn yr ail hanner, peniad da yn ôl ar draws ceg y gôl o’r postyn pellaf.

Mae’r canlyniad yn codi Gateshead dros Wrecsam yn y tabl wrth i’r Dreigiau lithro i’r pumed safle.

.

Gateshead

Tîm: Russell, Baxter, Buddle, Ramsden, Pattison, Clark, Gillies, Chandler, Phillips, Bowman, Shaw (Marwood 46′)

Goliau: Gillies 17’, Bowman 58’

.

Wrecsam

Tîm: Belford, Smith, Hudson, Jennings, Newton, Fyfield, Evans (Fowler 67′), Moke, York (Logan 72′) Gray (Smith 59′) Vose

Gôl: Newton 29’

Cerdyn Melyn: Belford 17’

.

Torf: 1,113