Caerdydd 0–2 Hull                                                                             

Collodd Caerdydd am y tro cyntaf yn y Bencampwriaeth y tymor hwn wrth i Hull ymweld â Stadiwm y Ddinas nos Fawrth.

Roedd yr Adar Gleision wedi cael tair buddugoliaeth a thair gêm gyfartal yn eu chwe gêm gyntaf, ond roedd goliau Mohamed Diamé ac Abel Hernández yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i’r ymwelwyr ar yr achlysur hwn.

Manteisiodd Diamé ar smonach amddiffynnol i roi Hull ar y blaen wedi dim ond wyth munud yn dilyn dechrau bywiog gan y ddau dîm.

Llwyr reolodd Caerdydd y meddiant wedi hynny ond heb lwyddo i greu llawer o gyfleoedd clir.

A chawsant eu cosbi am hynny ddeg munud o’r diwedd pan ddaeth Diamé o hyd i Hernández cyn i hwnnw orffen yn gelfydd i ddyblu mantais ei dîm.

Mae Caerdydd yn aros yn y safleoedd ail gyfle er gwaethaf y canlyniad ond yn llithro bedwar lle i’r chweched safle yn y tabl.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Peltier, Morrison, Connolly (Ecuele Manga 45′), Fabio, Pilkington (Ameobi 63′), Dikgacoi, Whittingham, Ralls (Noone 78′), Jones, Mason

Cardiau Melyn: Fabio 35’, Pilkington 42’, Wittingham 59’, Peltier 90’

.

Hull

Tîm: McGregor, Dawson, Bruce, Davies, Odubajo, Huddlestone, Clucas, Robertson (Elmohamady 69′), Diamé, Aluko (Meyler 84′), Hernández (Akpom 81′)

Goliau: Diamé 8’, Hernández 80’

Cardiau Melyn: Robertson 42’, McGregor 90’, Meyler 90’

.

Torf: 13,763