Fe fu’n rhaid i gapten dros dro Morgannwg, Mark Wallace adael y cae tra’n batio yn erbyn Swydd Northampton ddydd Mawrth oherwydd anaf i groth y goes.

Roedd Wallace, sy’n arwain y sir yn absenoldeb Jacques Rudolph, yn 27 heb fod allan ar yr ail ddiwrnod pan ddioddefodd yr anaf.

Dydy hi ddim yn glir eto a fydd e’n cymryd rhan yng ngweddill yr ornest yn ail adran y Bencampwriaeth yn Northampton.

Mae Wallace wedi torri record y sir drwy chwarae 230 o gemau’n olynol yn y Bencampwriaeth i’r sir, ond fe allai’r cyfnod di-dor ddod i ben oherwydd yr anaf.