Y Drenewydd 1–2 Y Rhyl
Mae record 100% y Drenewydd ar ddechrau’r tymor yn Uwch Gynghrair Cymru wedi dod i ben wedi i’r Rhyl eu trechu ar Barc Latham nos Sadwrn.
Dechreuodd y Rhyl y gêm ar waelod y tabl a’r Drenewydd ar y brig ac er i’r Robiniaid gael llu o gyfleoedd da trwy gydol y naw deg munud, yr ymwelwyr aeth â hi diolch i goliau Derek Taylor ac Aaron Bowen o bobtu’r egwyl.
Hanner Cyntaf
Roedd hi’n gêm ddigon cyfartal yn yr hanner cyntaf er mai’r tîm cartref a gafodd y gorau o’r cyfleoedd.
Gwnaeth gôl-geidwad y Rhyl, Terry McCormick, arbediad dwbl i atal Jason Oswell un-yn-erbyn-un wedi ugain munud, roedd y cyntaf yn arbediad gwych ond dylai Oswell fod wedi rhwydo ar yr ail gynnig.
Anelodd Luke Boundford ei foli bostyn pellaf yn erbyn y rhwyd ochr wedi hynny wrth i’r Drenewydd barhau i bwyso.
Y Rhyl, serch hynny, aeth ar y blaen bum munud cyn yr egwyl pan wyrodd ergyd Taylor o ochr y cwrt cosbi oddi ar amddiffynnwr ac i’r gornel isaf.
Rhwydodd Craig Williams wedi hynny ar ddiwedd symudiad gwych gan y tîm cartref ond ni chafodd y gôl ei chaniatáu gan fod Neil Mitchell yn camsefyll.
Ail Hanner
Roedd angen arbediad da gan David Jones i atal Bowen rhag dyblu mantais y Rhyl gydag ergyd gadarn yn gynnar yn yr ail gyfnod ond ni fu rhaid i’r blaenwr na’i dîm aros yn hir.
Deg munud o’r ail hanner oedd wedi mynd pan basiodd Taylor y bêl i lwybr Bowen ar ochr y cwrt cosbi cyn i’r ymosodwr mawr ei phasio’n daclus i’r gornel isaf.
Y tîm cartref gafodd y gorau o’r gêm wedi hynny a dylai Matty Owen fod rhwydo o’r smotyn wedi awr o chwarae yn dilyn trosedd Jamie Brewerton ar Matthew Hearsey, ond llwyddodd McCormick i arbed ei gic o’r smotyn.
Gwnaeth McCormick ddau arbediad da arall yn fuan wedyn hefyd i atal peniad Shane Sutton ac ergyd Hearsey.
Fe ddaeth gôl haeddiannol i’r Robiniaid ddeunaw munud o’r diwedd pan wyrodd cynnig postyn pellaf Boundford oddi ar Ibou Touray ac heibio i McCormick.
Fe lwyddodd Y Rhyl serch hynny i ddal eu gafael tan y diwedd, ac yn wir, yr ymwelwyr a gafodd y cyfle gorau yn y munudau olaf pan ergydiodd yr eilydd, Aaron Rey, yn syth at Jones ag yntau’n glir o flaen gôl.
Mae’r canlyniad yn codi’r Rhyl o waelod y tabl i’r seithfed safle ac mae’r Drenewydd, er colli am y tro cyntaf y tymor hwn, yn aros ar y brig .
.
Y Drenewydd
Tîm: Jones, Williams, Sutton, Cadwallader (Mills-Evans 45’), Edwards, Cook (Griffiths 84’), Owen, Boundford, Mitchell, Hearsey,
Oswell
Gôl: Boundford 72’
Cerdyn Melyn: Mills-Evans 76’
.
Y Rhyl
Tîm: McCormick, Clarke, Brewerton, Stones, Tohray, Mannix, Keates, Taylor, Donegan, Bell (Hughes 67’), Bowen (Rey 82’)
Goliau: Taylor 41’, Bowen 55’
Cardiau Melyn: Mannix 62’, Taylor 68’
.
Torf: 275