Aaron Ramsey
Mae Aaron Ramsey wedi dweud y byddai’n croesawu’r posibiliad o herio Lloegr mewn gêm gyfeillgar dros y misoedd nesaf er mwyn profi pwy yw tîm gorau Prydain.
Roedd chwaraewr canol cae Cymru yn siarad ar ôl eu gêm yn erbyn Israel nos Sul, pan fethodd y tîm a sicrhau eu lle ym Mhencampwriaethau Ewrop y flwyddyn nesaf.
Ond gyda’r tîm dal yn hyderus o groesi’r llinell derfyn fis nesaf, a hefyd yn uwch na Lloegr yn rhestr detholiadau’r byd bellach, byddai Ramsey’n croesawu gornest arall rhwng Cymru a’u hen elyn.
“Byddai tipyn o dynnu coes rhyngddo i a rhai o fy nghyd-chwaraewyr [Saesneg] yn Arsenal,” cyfaddefodd Ramsey.
“Mae e wastad yn gêm dda, yn gêm llawn angerdd. Dw i wedi chwarae yn dwy ohonyn nhw o’r blaen. Felly ie, pam lai? Os yw e’n digwydd, fe fydd e’n gêm wych.”
Gohirio’r parti
Ar ôl buddugoliaeth anodd o 1-0 allan yng Nghyprus nos Iau, roedd Cymru’n gwybod y byddai tri phwynt arall yn erbyn Israel dydd Sul yn sicrhau eu lle yn Ewro 2016, eu twrnament rhyngwladol cyntaf ers 1958.
Ond chafodd y cefnogwyr a heidiodd i Gaerdydd ar gyfer y gêm ddim cyfle i ddathlu, wrth i Israel ddangos eu gwytnwch amddiffynnol a sicrhau gêm ddi-sgôr.
Mae’n golygu y bydd yn rhaid i Gymru aros tan fis Hydref i geisio sicrhau eu lle yn Ffrainc, ac fe fyddan nhw’n hyderus o wneud hynny gan mai dim ond pwynt sydd ei angen yn erbyn un ai Bosnia neu Andorra.
“Rydyn ni dal ar frig y grŵp gyda chwpl o gemau i fynd ac mae meddylfryd y grŵp wedi bod yn wych,” meddai Ramsey.
“Rydyn ni’n hyderus y gallwn ni fynd i Fosnia a chipio’r tri phwynt, dyna’r hyder sydd gan y tîm ar y foment.
“Gobeithio y gallwn ni wneud hynny a chael diweddglo llwyddiannus i beth sydd wedi bod yn ymgyrch wych.”