Mike Phillips
Mae’r mewnwr Mike Phillips a’r asgellwr Eli Walker wedi cael eu hychwanegu i garfan Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd, yn dilyn anafiadau i Leigh Halfpenny a Rhys Webb.
Cafodd Halfpenny a Webb eu hanafu yn y gêm baratoadol olaf yn erbyn yr Eidal dros y penwythnos, ac mae Undeb Rygbi Cymru bellach wedi cadarnhau y bydd y ddau yn methu’r gystadleuaeth gyfan.
Fe anafodd Halfpenny ei ben-glin, tra bod Webb wedi brifo ei droed, ac mae’r ddau yn golled fawr i garfan Warren Gatland gan eu bod nhw’n rhan allweddol o’r tîm.
Roedd Phillips a Walker yn rhan o garfan estynedig Cymru cyn iddi gael ei chwtogi, ac fe fyddan nhw nawr yn cael cyfle arall i geisio profi i Gatland eu bod nhw’n haeddu lle yn y tîm.
Newid yn y cefn
Bydd Mike Phillips yn ymuno â Gareth Davies a Lloyd Williams fel un o’r tri mewnwr yn y garfan, tra bod Eli Walker yn ychwanegu at yr opsiynau ar yr asgell.
Mae anaf Leigh Halfpenny yn debygol o weld Liam Williams yn symud o’r asgell i safle’r cefnwr, gyda Walker, Alex Cuthbert a Hallam Amos yn cystadlu am un o’r safleoedd ar yr asgell.
“Mae’n siomedig iawn i Leigh a Rhys,” meddai hyfforddwr Cymru Warren Gatland wrth drafod yr anafiadau.
“Maen nhw wedi gweithio’n hynod o galed i sefydlu’i hunain ar y llwyfan rhyngwladol a pharatoi ar gyfer y twrnament ac rydyn ni’n gobeithio’r gorau iddyn nhw yn eu gwellhad.
“Ar ôl cyhoeddi’r garfan [derfynol o 31 chwaraewr] fe ddywedon ni ei bod hi’n bwysig i chwaraewyr fod yn barod i ailymuno â ni os oes angen ac mae hwn yn gyfle gwych i Mike ac Eli.”