Dydy’r gwres ddim yn debygol o atal Cymru rhag mynd amdani pan fyddan nhw’n herio Cyprus yn Nicosia, yn ôl y chwaraewr canol cae, Andy King.
Mae King yn disgwyl amser caled yn erbyn tîm corfforol Cyprus, yn enwedig ar ôl iddyn nhw dargedu Gareth Bale pan enillodd Cymru o 2-1 yng Nghaerdydd 11 mis yn ôl.
Ond King yntau gafodd ei anfon o’r cae bryd hynny am dacl beryglus ychydig funudau ar ôl yr egwyl.
Ar drothwy un o gemau pwysicaf yn hanes Cymru nos Iau, dywedodd Andy King: “O edrych yn ôl, mae’n bosib ’mod i wedi mynd dros ben llestri ond pan fo timau am eich cicio chi, mae angen i chi ddeall ein bod ni’n mynd i’w cicio nhw nôl hefyd.
“Dydy hynny ddim yn gwneud yn iawn am yr hyn ddigwyddodd ac fe fu’n rhaid i fi ddysgu o hynny oherwydd roedd colli allan ar ddwy gêm mor siomedig yn ystod ymgyrch mor dda.”
Ychwanegodd ei fod yn llawn nerfau wrth wylio’r ail hanner o’r ystlys.
“Ond rhaid i ni ddisgwyl her debyg ganddyn nhw, os nad her fwy fyth.
“Maen nhw yn eu gwlad eu hunain felly mae’n bosib y byddan nhw’n meddwl y byddan nhw’n cael dod bant â hi rywfaint.
“Ry’n ni’n disgwyl gêm galed yn erbyn tîm cryf a chorfforol a rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n barod amdani.”
Mae disgwyl i King gymryd lle Joe Allen, sydd wedi’i wahardd, ac mae’n teimlo’n hyderus yn sgil ei berfformiadau diweddar i Gaerlŷr yn yr Uwch Gynghrair.
“Gyda’r rheolwr newydd [Claudio Ranieri] yn dod i mewn, ry’ch chi’n dechrau o’r dechrau a rhaid i chi greu argraff unwaith eto.
“Gobeithio ’mod i wedi llwyddo i wneud hynny ac fe fu’n ddechrau da i fi’n bersonol ac i’r tîm.”
Bydd Cymru’n sicrhau eu lle ym Mhencampwriaethau Ewrop yn Ffrainc y flwyddyn nesaf pe baen nhw’n curo Cyprus, ac yna Israel ddydd Sul.
Ond maen nhw’n canolbwyntio ar y gêm yn erbyn Cyprus yn unig am y tro, meddai King.
“Mae gyda ni ddwy gêm anferth lle gallwn ni wneud rhywbeth ac ry’n ni am ei orffen cyn gynted â phosib.
“Ond allwn ni ddim edrych yn rhy bell ymlaen ac mae Cyprus yn gêm anferth oherwydd byddan nhw’n meddwl bod ganddyn nhw siawns [o ennill] hefyd.”