Mae gan Loegr nifer o gwestiynau mawr i’w hateb cyn dechrau Cwpan Rygbi’r Byd, yn ôl hyfforddwr Cymru, Warren Gatland.

Fe fydd Cymru’n mynd ben-ben â Lloegr yn Twickenham ar Fedi 26, ac maen nhw’n wynebu Awstralia, Ffiji ac Wrwgwai yng Ngrŵp A – y grŵp mwyaf cystadleuol o blith y pedwar.

Dim ond dau dîm o bob grŵp sy’n gallu cyrraedd yr wyth olaf.

Ar drothwy’r gystadleuaeth, dywedodd Warren Gatland: “Ry’n ni’n llawer iawn mwy sefydlog.

“Mae gan Loegr y broblem ynghylch pa ffordd maen nhw am chwarae a phwy maen nhw am [ddewis i] chwarae.

“Pwy fyddan nhw’n [dewis i] chwarae’n rhif naw a 10? Pwy fyddan nhw’n [dewis i] chwarae yng nghanol cae? Pwy fydd yn y rheng ôl? Mae angen (Geoff) Parling i alw’r lein – pwy fydd ei bartner a phwy fydd yn dod oddi ar y fainc?

“Ry’n ni ychydig yn fwy sefydlog ac yn fwy cyfforddus gyda’r profiad a’r cyfuniadau sydd gyda ni.

“Yn amlwg, mae ganddyn nhw nifer o chwaraewyr o safon byd-eang a’r dyfnder y byddwn i wrth fy modd yn ei gael, ond dydyn nhw ddim 100% yn sicr i le maen nhw’n mynd.

Ychwanegodd fod y ddwy wlad yn “parchu ei gilydd”, ac y gallai’r canlyniad fynd y naill ffordd neu’r llall.

“Fel hyfforddwr, dw i wedi cael llwyddiant gwych yn Twickenham. Dw i’n meddwl bod y stadiwm yn wych a dw i wrth fy modd yn cael mynd yno. Mae wedi bod yn lwcus i fi, a boed i hynny barhau.”