Chris Coleman
Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi cyfaddef mai dyma yw’r “swydd fwyaf wnâi fyth ei gael”, a’i fod eisoes wedi cael trafodaethau anffurfiol â’r Gymdeithas Bêl-droed ynglŷn â chytundeb newydd.
Ar ôl y dechrau anodd gafodd Coleman i’w yrfa fel hyfforddwr Cymru, yn enwedig ar ôl colli 6-1 i Serbia, fe fuasai llawer wedi synnu tasech chi wedi dweud wrthyn nhw y byddai’r tîm tair blynedd yn ddiweddarach ar drothwy cyrraedd eu twrnament cyntaf ers 1958, a bod y rheolwr ar fin cael cynnig cytundeb newydd.
Ond, ar y funud dyna’n union sut mae’r sefyllfa yn edrych, gyda Chymru’n arwain eu grŵp rhagbrofol Ewro 2016 heb golli’r un o’u chwe gêm a dim ond wedi ildio dwy gôl, yr un ohonyn nhw o chwarae agored.
Yn sgil y newid mawr yng nghanlyniadau a pherfformiadau Cymru mae’r sylw wedi troi at gytundeb newydd i Coleman, gyda’i un presennol yn dod i ben ar ddiwedd yr ymgyrch.
“Fe aethon ni gyd allan am fwyd a sgwrs ym Moscow,” cyfaddefodd Coleman, wrth sôn am y trip i Rwsia i weld grwpiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn cael eu dewis.
“Fy rheswm i am beidio cael trafodaeth ynglŷn â chytundeb newydd ydi oherwydd mod i wastad yn meddwl am y swydd, ac yn enwedig y targed cyntaf sef cyrraedd Ffrainc.
“Os ydyn ni’n cyflawni hynny – a dw i wastad wedi credu y byddwn ni’n llwyddo i’w gwneud hi yn yr ymgyrch yma, oherwydd y dalent sydd gennyn ni yn y garfan – wedyn gawn ni eistedd lawr a thrafod cytundeb newydd.”
Balchder dros ei wlad a’i swydd
Mae Chris Coleman wedi cael ei ganmol yn aml am ba mor angerddol ydi o dros ei wlad a’i awydd i weld Cymru yn llwyddo.
Ac wrth gyhoeddi ei garfan ar gyfer y ddwy gêm enfawr yn erbyn Cyprus ac Israel sydd i ddod, fe esboniodd y rheolwr cymaint y mae’n ei olygu iddo i gael y cyfle i geisio arwain ei wlad i gystadleuaeth ryngwladol am y tro cyntaf mewn dros hanner canrif.
“Hyd yn oed yn yr ymgyrch ddiwethaf pan doedd pethau ddim yn mynd yn wych i’r un ohonom ni, rheoli Cymru ydi’r swydd fwyaf wnâi fyth ei gael, a’r anrhydedd mwyaf gaf i yn fy ngyrfa, dim ots beth sy’n digwydd,” meddai Coleman.
“Dw i ddim eisiau ildio’r anrhydedd yna, wrth gwrs mod i ddim, ond dw i dal eisiau gorffen yr ymgyrch hon yn llwyddiannus drwy ganolbwyntio arni a pheidio â phoeni am yr un nesaf.
“Mae’r pwysau yn enfawr ond mae’r cyfnod yma o fy ngyrfa yn sefyll allan fel y sialens a’r anrhydedd fwyaf dw i erioed ‘di cael.”
Cyffro o gwmpas y wlad
Mae’n anodd peidio â sylwi ar ddylanwad marchnata prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru Jonathan Ford yn ystod yr ymgyrch yma hefyd, gyda’r slogan ‘Together Stronger. Gyda’n gilydd yn gryfach’ yn llwyddiant mawr ymysg y cefnogwyr.
Mae’r gefnogaeth y mae’r tîm pêl-droed wedi’i ddenu wedi mynd drwy’r to, gyda stadiwm lawn i’w gwylio nhw am y tro cyntaf ers blynyddoedd wrth iddyn nhw drechu Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mis Mehefin.
“Rydych chi’n gallu ei deimlo e o gwmpas Caerdydd, o gwmpas y wlad i gyd,” meddai Coleman.
“Mae pobl yn credu, mae pobl yn gyffrous, felly mae’r pwysau yn enfawr ond dyna beth rydyn ni wastad wedi ei eisiau!”
Mynnodd y rheolwr fod ei chwaraewyr yn gynyddol hyderus yn eu hunain diolch i’r llwyddiant maen nhw wedi’i gael hyd yn hyn, a’u bod yn barod i herio goreuon y byd.
“Does dim pwynt ceisio dweud mai Cymru ydan ni a dim ond tair miliwn o bobl sydd gyda ni,” meddai.
“Mae’n rhaid dangos hyder, a dyna beth fydd yn gwneud i ni gyrraedd ein targedau ni.”
Stori: Jamie Thomas