Harry Wilson
Mae ymosodwr ifanc Lerpwl a Chymru, Harry Wilson, wedi symud i Crewe yng Nghynghrair Un ar fenthyg tan fis Ionawr.

Wilson yw’r chwaraewr ieuengaf erioed i gynrychioli Cymru a hynny ar ôl iddo ddod oddi ar y fainc mewn gêm ragbrofol yn erbyn Gwlad Belg yn 2013 pan oedd yn 17 oed, gan dorri record Gareth Bale.

Ers hynny mae wedi cael ei wahodd i ymarfer â’r garfan genedlaethol sawl gwaith ac mae’n cael ei ystyried yn un o sêr disglair y dyfodol.

Fe allai chwarae dros Crewe am y tro cyntaf y penwythnos yma, pan fyddan nhw’n wynebu Wigan.

Ar ôl gwneud ei farc gyda thîm dan-18 Lerpwl fe chwaraeodd yr asgellwr yn rheolaidd dros y tîm dan-21 tymor diwethaf.

Llynedd fe arwyddodd ei gytundeb proffesiynol cyntaf â’r clwb, ac roedd yn rhan o garfan y tîm cyntaf ar gyfer eu taith i dde ddwyrain Asia dros yr haf eleni.