Gareth Anscombe
Mae pryder y gallai Gareth Anscombe fethu Cwpan y Byd ar ôl i faswr Cymru ddioddef anaf i’w figwrn wrth ymarfer yr wythnos diwethaf.
Fe enillodd Anscombe, sydd yn wreiddiol o Seland Newydd, ei gap cyntaf dros Gymru wrth ddod ymlaen fel eilydd yn y gêm baratoadol yn erbyn Iwerddon bythefnos yn ôl.
Ond nawr mae’n bosib y bydd yn rhaid i Warren Gatland ei adael allan o’i garfan derfynol o 31 chwaraewr, sydd yn cael ei ddewis dydd Llun, os nad oes arwydd y bydd yn gwella mewn pryd.
Gadael ar ôl
Mae Cymru yn herio Iwerddon unwaith eto’r penwythnos yma wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y gystadleuaeth ym mis Medi, ac wythnos nesaf fe fydd y garfan yn cael ei chwtogi o 38 i 31 chwaraewr.
Mae Mike Phillips, Richard Hibbard a James Hook eisoes ymysg y rheiny sydd wedi cael eu rhyddhau.
Roedd disgwyl y byddai Anscombe yn cael ei gynnwys yn y 31 fel trydydd dewis yn safle’r maswr a hefyd am ei fod yn gallu chwarae fel cefnwr.
Ond os nad yw’n ffit ar gyfer dechrau’r gystadleuaeth mae’n bosib na fydd yn cael ei gynnwys, gyda chwaraewyr fel Matthew Morgan yn cystadlu am le fel un o’r olwyr wrth gefn.