Mi fydd pêl-droed o Gymru ar gael i gefnogwyr ar draws y byd y tymor hwn, wrth i S4C gyhoeddi y bydd gemau Sgorio ar brynhawniau Sadwrn yn cael eu darparu’n rhyngwladol ar wasanaeth ar alw, s4c.cymru.

Bydd y gemau sy’n cael sylw gan Sgorio bob prynhawn Sadwrn – yn cynnwys Uwch Gynghrair Cymru Dafabet, Cwpan Cymru JD a rownd derfynol Cwpan Word – yn cael eu llwytho ar wasanaeth ar-lein rhyngwladol S4C yn dilyn y chwiban ola’.

Bydd hynny’n caniatáu i gefnogwyr ar draws y byd wylio’r gêm yn llawn, ar alw, am 35 diwrnod.

Bydd Sgorio yn dychwelyd ar Awst 22, ac mae darparu gemau Sgorio yn rhyngwladol yn rhan o gynllun ehangach S4C i ddarparu mwy o gynnwys ar gyfer gwylwyr y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Uwch Gynghrair Cymru 

Fe wnaed y cyhoeddiad yn ystod digwyddiad i lawnsio Uwch Gynghrair Cymru Dafabet yn y Senedd ym Mae Caerdydd heddiw.

Dywedodd Gwyn Derfel, Ysgrifennydd Uwch Gynghrair Cymru Dafabet, y bydd y darllediadau rhyngwladol yn hwb sylweddol i godi proffil clybiau’r gynghrair; “Mae hyn yn newyddion da iawn i bêl-droed yng Nghymru, fydd yn ehangu apêl y gynghrair cenedlaethol ar draws y byd.

“Rydym yn ddiolchgar i S4C a thîm Sgorio yn Rondo Media am eu cefnogaeth barhaol, ac mi fydd dangos y gemau yn rhyngwladol yn siŵr o godi proffil y gêm, y cynghrair â’r timau yng Nghymru.