Byddai’r Cymro Gareth Bale yn chwaraewr delfrydol i Man U, yn ôl cyn-ymosodwr y clwb, Bryan Robson.

Daw sylwadau Robson yn dilyn adroddiadau bod Real Madrid wedi gwrthod dau gynnig gan Louis van Gaal am yr ymosodwr dros yr haf.

Yr awgrym yw fod o leiaf un o’r cynigion dros £100 miliwn.

Mae Man U yn chwilio am chwaraewr i ddisodli Angel di Maria wrth iddo gwblhau amodau ei drosglwyddiad i Paris St Germain am £44.3 miliwn.

Mae van Gaal eisoes wedi dweud bod diffyg creadigrwydd a chyflymdra yn ei garfan, ac fe fyddai Bale yn llenwi’r bwlch hwnnw pe bai’n symud i Old Trafford.

Dywedodd Bryan Robson: “Byddai dod â Bale i mewn yn drosglwyddiad da iawn pe bai’n digwydd.

“Y peth da am Bale, a dyna mae’r rheolwr yn ei hoffi, yw y gall chwarae mewn dau safle – gall chwarae ar yr asgell ac hefyd fel blaenwr.

“Bydd yn anodd iawn ond pe gallai’r rheolwr ei ychwanegu at y garfan, dw i’n credu y byddai’n ddyn hapus iawn.”

Mae rheolwr Real Madrid, Rafael Benitez yn mynnu na fydd Bale yn gadael y Bernabeu, ac mae lle i gredu bod y Cymro’n hapus i aros ym Madrid am y tro.

Cafodd Bale ei feirniadu’n hallt gan gefnogwyr y clwb y llynedd.