Daeth rhediad di-guro Morgannwg yng nghwpan 50 pelawd Royal London i ben wedi iddyn nhw golli o naw wiced yn erbyn Swydd Warwick, wrth i’r Saeson gyrraedd y nod o 180 ar ôl 38.1 o belawdau yn Edgbaston.
Partneriaeth o 157 rhwng capten Swydd Warwick, Varun Chopra (80 heb fod allan) a chyn-fatiwr Lloegr, Jonathan Trott (73 heb fod allan – y bartneriaeth ail wiced orau erioed i’r sir yn erbyn Morgannwg mewn gornest Rhestr A – oedd wedi sicrhau’r fuddugoliaeth i’r tîm cartref.
Penderfynodd Morgannwg fatio’n gyntaf ar ôl galw’n gywir, ond perfformiad digon siomedig a gafwyd gan y batwyr wrth i’r bowliwr lled-gyflym Oliver Hannon-Dalby gipio pum wiced am 27.
Methodd Morgannwg ag adeiladu unrhyw bartneriaethau o nod yn ystod eu batiad, a diffyg wicedi wrth fowlio oedd wedi caniatâu i’r tîm cartref gyrraedd y nod heb fawr o drafferth.
Crynodeb
Collodd Morgannwg eu wiced gyntaf yn y seithfed belawd gyda dim ond 22 o rediadau ar y bwrdd, wrth i Keith Barker ddarganfod ymyl bat y capten Jacques Rudolph, a darodd y bêl i fenyg y wicedwr Tim Ambrose.
Roedd y batiwr llaw chwith o Dde Affrica, Colin Ingram yn adeiladu partneriaeth addawol gyda Will Bragg yn yr ail gyfnod clatsio cyn i gapten Swydd Warwick, Varun Chopra ddal ei afael ar y bêl oddi ar fowlio Olly Hannon-Dalby, ac roedd Ingram ar ei ffordd yn ôl i’r pafiliwn a Morgannwg yn 53-2.
Cwympodd trydedd wiced Morgannwg gyda 59 o rediadau ar y bwrdd ar ddiwedd yr ail belawd ar bymtheg, wrth i David Lloyd ergydio’n syth i’r awyr a chanfod dwylo diogel Keith Barker ar ymyl y cylch ar ochr y goes oddi i roi ail wiced i Hannon-Dalby.
Dilynodd Chris Cooke yn dynn ar ei sodlau, wrth i’r wicedwr Ambrose afael ar y bêl i sicrhau trydedd wiced i Hannon-Dalby a’r cyfanswm bellach yn 84-4.
Tarodd Will Bragg 45 oddi ar 77 o belenni yn ystod batiad oedd yn cynnwys pedair ergyd i’r ffin, ond fe ddaeth i ben wrth i gapten Iwerddon Will Porterfield neidio i’w chwith ar ymyl y cylch i sicrhau daliad campus oddi ar fowlio Josh Poysden, a Morgannwg yn 93-5 yn y seithfed pelawd ar hugain.
Collodd Morgannwg eu chweched wiced ym mhelawd rhif 31, wrth i’r capten Chopra gipio daliad oddi ar gam-ergyd i waredu Mark Wallace oddi ar fowlio Josh Poysden am 7, a’r Cymry mewn dyfroedd dyfnion ar 108-6.
Ychwanegodd Graham Wagg a Craig Meschede 33 o rediadau rhyngddyn nhw cyn i Wagg daro pelen gan Hannon-Dalby yn ddi-angen y tu allan i’r ffon agored a darganfod dwylo Porterfield yn sgwâr, a Morgannwg yn 141-7 ym mhelawd rhif 39.
Aeth 141-7 yn 149-8 wrth i Meschede dynnu’n sgwâr i ddwylo Laurie Evans ar y ffin oddi ar fowlio’r troellwr Jeetan Patel.
Collodd Morgannwg eu nawfed wiced cyn diwedd pelawd rhif 45, wrth i Dean Cosker gael ei fowlio gan Josh Poysden am 4, a’r cyfanswm bellach yn 157.
Daeth terfyn i’r batiad gydag wyth pelen yn weddill wrth i Andrew Salter gael ei ddal gan y wicedwr Ambrose oddi ar Hannon-Dalby wrth i’r bowliwr lled-gyflym orffen gyda ffigurau o 5-27, a Morgannwg yn gosod nod o 180 i Swydd Warwick am y fuddugoliaeth.
Trwy gyd-ddigwyddiad, yn y seithfed pelawd y cipiodd Morgannwg eu wiced gyntaf nhw hefyd, wrth i Michael Hogan fowlio Will Porterfield am 22, a’r tîm cartref yn 26-1.
Ond partneriaeth sylweddol rhwng y capten Chopra a chyn-fatiwr Lloegr, Jonathan Trott osododd y seiliau ar gyfer y fuddugoliaeth.
Tarodd Trott hanner canred cynta’r ornest oddi ar 68 o belenni – gan gynnwys pum ergyd i’r ffin – wrth i’r bartneriaeth symud dros y 100.
Efelychodd Chopra y gamp yn fuan wedyn gydag ergyd i’r ffin, ei bedwaredd yn ystod y batiad (tri phedwar ac un chwech), a’r tîm cartref erbyn hynny’n 135-1 yn y degfed pelawd ar hugain.
8.1 pelawd arall oedd eu hangen i gyrraedd y nod, ac mae rhediad di-guro Morgannwg wedi dod i ben.
Ymateb
Ar ddiwedd yr ornest, roedd capten Morgannwg yn benderfynol ei fod e wedi gwneud y penderfyniad cywir wrth fatio.
Dywedodd wrth Golwg360: “Dw i ddim yn difaru batio’n gyntaf. Roedd y llain yn chwe niwrnod oed, ac roedden nhw newydd chwarae gêm brawf arni, a dw i’n credu y byddai unrhyw gapten yn y byd wedi dewis batio’n gyntaf. Wnaethon ni jyst ddim batio’n ddigon da.
“Fe wnaethon ni ildio gormod o wicedi ac mae hynny’n rhywbeth y bydd rhaid i ni feddwl amdano. Yn y rhan fwyaf o’r gemau y tymor hwn, mae’r bowlwyr wedi bod o dan bwysau oherwydd nad oedden ni wedi sgorio’r rhediadau ry’n ni’n gwybod ry’n ni’n gallu’u sgorio. Weithiau mae’r bowlwyr wedi ein hachub ni pan y’n ni wedi bod mewn trafferth, ond allan nhw ddim gwneud hynny bob tro.”
Ychwanegodd Rudolph fod y digwyddiadau ddoe yng Nghaerdydd, pan gafodd yr ornest yn erbyn Swydd Hampshire ei therfynu’n gynnar oherwydd cyflwr y llain, wedi cael effaith ar y chwaraewyr yn Edgbaston heddiw.
“Dw i’n credu efallai bod y digwyddiadau ddoe wedi chwarae rhan i ryw raddau ond allwn ni ddim defnyddio hynny fel esgus.”
Wrth ymateb i sylw Rudolph, dywedodd is-hyfforddwr Morgannwg, Robert Croft: “Os yw Jacques yn teimlo fel ’na, mae hynny lan iddo fe i feddwl.
“Ond pan o’n ni’n paratoi ar gyfer heddi, roedd digon o ysbryd yn y garfan, a phawb yn edrych ymlaen i’r gêm.
“Do’n ni ddim lan i’r safon gyda’r bat. I sgorio 180, ry’n ni’n siomedig iawn. Rhaid i’r batwyr eistedd lawr ac edrych i weld beth maen nhw wedi gwneud heddiw, a beth dy’n nhw ddim wedi gwneud ddoe.
“Sai’n siwr beth oedd yn bod. Ro’n i’n meddwl gyda’r llain bod eisiau cyfanswm o 250.”
Bydd rhaid i’r perfformiad wella ar gyfer ymweliad Swydd Sussex ag Abertawe ddydd Mercher, meddai Croft. Ond wedi hynny, fe fydd eu sylw’n troi unwaith eto i’r Bencampwriaeth, wrth i Swydd Gaerloyw ddod i San Helen.
“Mae cyfle i’r bois ddod i mewn a chwarae’n dda. Mae llawer gyda ni i chwarae amdano y tymor hwn. Mae cyfle gyda ni i fynd lan [i Adran Gyntaf y Bencampwriaeth].”