Does gan Y Drenewydd ddim i’w golli wrth iddyn nhw baratoi i herio FC Kobenhavn yn ail rownd ragbrofol Cynghrair Ewropa heno, yn ôl chwaraewr canol cae’r tîm Matty Hearsey.

Bydd y Robins yn croesawu’r tîm o brifddinas Denmarc i Barc Latham ar gyfer yr ail gymal heno, a hynny ar ôl iddyn nhw golli 2-0 yn y cymal cyntaf wythnos yn ôl.

Ond yn ôl rheolwr y Drenewydd Chris Hughes mae’r cymal “dal yn fyw”, gyda’r tîm dal yn byw mewn gobaith y gallan nhw gipio buddugoliaeth hanesyddol o flaen eu torf gartref.

Y Drenewydd yw’r unig dîm o gynghrair Gymru ar ôl yn Ewrop bellach, ar ôl i’r Seintiau Newydd fynd allan neithiwr, a phetai nhw’n cyrraedd y rownd nesaf fe fyddan nhw’n wynebu FK Jablonec o’r Weriniaeth Tsiec.

Byw mewn gobaith

Roedd disgwyl y byddai FC Kobenhavn yn ennill y cymal cyntaf erbyn Y Drenewydd yn rhwydd, gan eu bod nhw’n dîm profiadol ar y lefel Ewropeaidd â sawl chwaraewr rhyngwladol yn eu carfan.

Ac yn ôl Chris Hughes mae’r ffaith bod gan ei dîm obaith o hyd  o gyrraedd y rownd nesaf yn brawf o ba mor dda wnaethon nhw draw yn Copenhagen.

“Roedden nhw’n meddwl mae’n siŵr y bydden nhw’n sgorio pump neu chwech ac wedyn yn gallu anfon tîm gwannach [i’r ail gymal],” medda rheolwr Y Drenewydd.

“Rydyn ni’n gwybod ei bod hi am fod yn anodd ond mae’r cymal dal yn fyw.”

Ac yn ôl y chwaraewr canol cae Matty Hearsey, fe allai’r dorf lawn ym Mharc Latham chwarae eu rhan.

“Dw i’n meddwl y gallwn ni fynd ac ennill, pam ddim? Rydan ni’n mynd mewn i’r gêm heb unrhyw beth i’w golli ac mae disgwyl iddyn nhw ennill,” meddai.

“Fe fyddan nhw mewn amgylchiadau anghyfarwydd a fydd Parc Latham ddim y math o le fyddan nhw wedi arfer ag o, felly mae’n rhaid i ni drio manteisio ar hynny.”