Mae siwrne’r Seintiau Newydd yn Ewrop ar ben am flwyddyn arall ar ôl tor-calon hwyr wrth iddyn nhw golli yn ystod amser ychwanegol i Videoton o Hwngari.
Roedd pencampwyr Cymru wedi colli cymal cyntaf eu hail rownd ragbrofol yng Nghynghrair y Pencampwyr o 1-0, ac yn wynebu brwydr anodd i geisio cyrraedd y rownd nesaf.
Ond er gwaethaf y ffaith bod Videoton wedi rheoli’r rhan fwyaf o’r ail gymal neithiwr, cipiodd Matty Williams gôl hollbwysig i’r Seintiau gyda 12 munud i fynd i’w rhoi nhw 1-0 ar y blaen.
Roedd hynny’n ddigon i fynd a’r cymal i amser ychwanegol, ond yna gydag 107 munud ar y cloc fe rwydodd Adam Gyurcso i roi’r tîm cartref yn ôl ar y blaen.
Er gwaethaf ymdrechion y Seintiau doedden nhw methu canfod gôl arall fyddai wedi’u rhoi nhw drwyddo, ac felly Videoton fydd yn mynd drwyddo i’r rownd nesaf i wynebu BATE Borisov.
‘Rhagorol’
Gyda’r tymheredd yn Hwngari ymhell dros 30 gradd Celsiws yn ystod y gêm, roedd y Seintiau’n wynebu amodau anghyfarwydd a thîm cartref oedd yn ffefrynnau clir.
Fe wnaeth golwr y Seintiau Paul Harrison sawl arbediad i gadw’i dîm yn y gêm, cyn i gôl hwyr Williams fynd a’r gêm i amser ychwanegol.
Ond fe fanteisiodd Gyurcso ar gyfle yn ail hanner yr amser ychwanegol i roi Videoton nôl ar y blaen, ac fe fethodd Mike Wilde gyfle hwyr fyddai wedi rhoi’r Seintiau drwyddo, cyn i Sam Finley weld cerdyn coch hwyr.
Er gwaethaf y ffaith na lwyddon nhw i gyrraedd y rownd nesaf, fodd bynnag, roedd cyfarwyddwr pêl-droed y Seintiau Newydd Craig Harrison yn llawn clod i’r tîm am ennill y gêm oddi cartref mewn 90 munud.
“Roedd y chwaraewyr yn rhagorol heno,” meddai. “Fe wnaethon ni weithio ar ble fyddai eu gwendidau a ble oedd ein cryfderau ac roedd y bechgyn yn hollol wych, pob un ohonyn nhw.
“Dw i’n meddwl ein bod ni wedi bod yn anlwcus iawn, iawn.”