Fe fydd y Drenewydd yn cael trip i Ddenmarc yn ail rownd ragbrofol Cynghrair Ewropa ar ôl iddyn nhw ennill yn erbyn Valletta o Malta neithiwr.
Sgoriodd Matty Owen gôl hwyr i ennill y gêm 2-1 neithiwr, a gyda’r Drenewydd eisoes wedi ennill y cymal cyntaf gartref o’r un sgôr, nhw enillodd eu lle yn rownd nesaf y gystadleuaeth.
Ond fe gollodd Y Bala yn y modd mwyaf creulon posib, ar ôl i Differdange o Lwcsembwrg sgorio ym munud olaf yr amser ychwanegol am anafiadau.
Roedd Y Bala wedi colli’r cymal cyntaf 3-1, ond roedden nhw’n ennill 2-0 yn yr ail gymal yn Y Rhyl a hynny’n ddigon i’w rhoi nhw drwyddo cyn y ddrama hwyr.
Mae Airbus hefyd allan o’r gystadleuaeth ar ôl gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Lokomotiva Zagreb, a hynny wedi iddyn nhw golli 3-1 yn y cymal cyntaf.
Dalen newydd i’r Drenewydd
Doedd Y Drenewydd erioed wedi mynd drwyddo mewn unrhyw rownd Ewropeaidd cyn hyn, a heb chwarae yn Ewrop ers 1998.
Ond fe lwyddodd tîm Chris Hughes i ysgrifennu dalen newydd yn hanes y clwb wrth ennill 2-1 ym Malta neithiwr diolch i goliau Jason Oswell a Matty Owen.
A hwythau wedi ennill 2-1 yn y cymal cyntaf roedden nhw’n gwybod y byddai gêm gyfartal yn ddigon, ond gyda’r sgôr yn gyfartal 1-1 gyda phum munud i fynd fe rwydodd Owen i sicrhau’r fuddugoliaeth.
Fe fyddan nhw nawr yn wynebu FC Copenhagen, y clwb mwyaf llwyddiannus erioed yn Nenmarc, yn ail rownd ragbrofol y gystadleuaeth.
Torcalon i’r Bala
Stori wahanol iawn oedd hi i’r Bala, fodd bynnag, oedd yn gwybod fod yn rhaid iddyn nhw drechu Differdange gartref o ddwy gôl i fynd drwyddo.
Dyna’n union roedden nhw ar fin gwneud wedi i Conall Murtagh ac Ian Sheridan sgorio yn yr ail hanner i godi gobeithio y Cymry.
Ond ar ddiwedd y pedwar munud o amser ychwanegol am anafiadau fe rwydodd Omar Er Rafik i anfon yr ymwelwyr drwyddo, a suddo cwch banana’r Bala yn y modd mwyaf creulon.