Ar ôl sgorio 77 rhediad a chipio dwy wiced bwysig yn ystod prawf cyntaf Cyfres y Lludw yn y Swalec yng Nghaerdydd, mae troellwr Lloegr Moeen Ali yn mynnu bod perfformiad y tîm yn bwysicach na gorchestion unigol ar y cae.
Cipiodd Ali wicedi capten Awstralia, Michael Clarke a’r chwaraewr amryddawn Steve Smith wrth i Awstralia orffen yr ail ddiwrnod ar 264-5.
Daliad campus gan y bowliwr ei hun oedd yn gyfrifol am anfon Clarke yn ôl i’r pafiliwn, ac fe lwyddodd y troellwr rhan-amser i faglu Smith wrth iddo ddawnsio i lawr y llain i geisio taro’r bowliwr dros ei ben, gan ganfod dwylo diogel Alastair Cook.
Plesio’r dewiswyr
Un o’r ffactorau fydd yn plesio’r dewiswyr yw dawn Ali i ddyfalu cam nesaf ei wrthwynebydd, a’i allu i fanteisio ar eu gwendidau ar adegau pwysig yn ystod y dydd.
Un o’r cyfryw wendidau yw anallu Steve Smith i ddefnyddio’i draed yn effeithiol wrth ymosod ar Ali – camgymeriad a arweiniodd at golli ei wiced ar yr ail ddiwrnod.
Dywedodd Moeen Ali: “Roedd e’n defnyddio’i draed o hyd ac o hyd yn fy erbyn i ac fe wnes i ddefnyddio dull undydd yn ei erbyn e wrth anelu’r bêl at ei glin neu saethu’r bêl i lawr ochr y goes ac fe gafodd ei hun mewn tipyn o benbleth.
“Ro’n i jyst yn hapus i’w gael e allan. Mae’n chwaraewr da iawn yn erbyn troellwyr.
“Mae e’n ymosodol iawn ac fe all eich chwalu chi, ond mae e hefyd yn rhoi cyfleoedd i chi.
“Dw i’n dweud o hyd ac o hyd ’mod i un belen i ffwrdd o’r wiced nesaf bob amser.
“Does gen i ddim ots beth mae e [Smith] wedi gwneud o’r blaen, dw i’n ei barchu’n fawr ond dw i jyst yn trio cipio wicedi.”
Pwysau
Roedd Ali dan bwysau i wella’i berfformiadau ar drothwy’r Lludw ac mae ei berfformiadau ar yr ail ddiwrnod wedi’i roi mewn sefyllfa gryf i hawlio’i le fel prif droellwr y tîm.
Dywedodd Ali wrth y wasg oedd wedi ymgynnull ar ddiwedd y dydd mai “cyfrannu i’r tîm” yw ei nod bob tro y caiff gyfle i fowlio.
“Y peth pwysicaf oedd cael y tîm i’r man lle’r ydyn ni ar hyn o bryd.”
A dydy Ali ddim yn poeni o gwbl am ei statws fel troellwr rhan amser.
“Yn y gyfres hon, bydd y rhan fwyaf o’r troellwr yn dioddef ymosodiadau ac felly mae cyfle bob amser i chi gipio wicedi.
“Dw i ddim yn meddwl eu bod nhw [Awstralia] yn fy nhanbrisio fi, dyna natur y gwrthwynebwyr.
“Os galla i gipio cwpwl o wicedi ychwanegol, bydda i’n hapus iawn gyda hynny.”
Chwaraewr amryddawn
Er na fu’n sicr o’i le yn y tîm dros y flwyddyn ddiwethaf, agwedd digon ffwrdd-â-hi sydd gan Ali wrth drafod y rhan y gall chwarae fel batiwr ac fel troellwr.
“Dw i’n troi i fyny, ymarfer yn galed a pharatoi gorau galla i ac os caf fi fy newis, dw i’n hapus iawn. Dw i jyst yn paratoi i chwarae ym mhob gêm.”
Heb unrhyw fath o awgrym fod llain y Swalec yn dechrau troi eto, mae Ali wedi dangos na fu angen troelli’r bêl yn ormodol i gael budd allan ohoni hyd yma.
Ond wrth i Loegr geisio cipio pum wiced olaf Awstralia ar y trydydd diwrnod, fe allai Ali gael cyfle arall i serennu.
“Mae yfory’n amlwg yn bwysig. Gobeithio y galla i gipio cwpwl o wicedi eto.
“Gyda’r bêl newydd rownd y gornel, dw i’n credu ei bod yn bwysig iawn cipio wicedi.
“Dw i’n credu ein bod ni i gyd yn gwybod ’mod i’n cipio wicedi weithiau, a weithiau dw i’n ildio rhediadau.
“Dw i lawer iawn o belawdau y tu ôl i’r troellwyr profiadol, dw i ddim wedi bowlio cymaint â nhw. Bydd yn cymryd sbel i fi baratoi am hynny.
“Fe fydd dyddiau anodd o’m blaen, ond gobeithio y bydd yna ddiwrnodau da hefyd.”