Gorffennodd Awstralia 166 o rediadau y tu ôl i gyfanswm batiad cyntaf Lloegr o 430 ar ddiwedd yr ail ddiwrnod ym mhrawf cyntaf Cyfres y Lludw yn y Swalec SSE.
Yn ystod y drydedd sesiwn, aeth partneriaeth Chris Rogers a’r capten Michael Clarke heibio’r hanner cant.
Ond roedd yn brynhawn cofiadwy i’r bowliwr cyflym Mark Wood, wrth iddo gipio’i wiced gyntaf yng nghyfres y Lludw.
Daeth y bartneriaeth rhwng Rogers a Clarke i ben o fewn awr ar ôl dechrau’r sesiwn, wrth i Wood demtio Rogers i ergydio ar yr ochr agored y tu allan i’w ffyn, a’r wicedwr Jos Buttler yn dal ei afael ar y bêl yn gyffyrddus.
Dyma oedd y seithfed tro o’r bron i Rogers fynd allan am gyfanswm rhwng 50 a 100 – y batiwr cyntaf erioed yn hanes gemau prawf i wneud hynny – ac roedd ei fatiad yn cynnwys unarddeg pedwar ac un chwech – ei chwech cyntaf mewn gemau prawf dros Awstralia.
Roedd y bartneriaeth newydd rhwng Adam Voges a Michael Clarke yn dechrau peri rhwystredigaeth i Loegr, cyn i Moeen Ali ddal ei afael ar y bêl oddi ar ei fowlio’i hun wrth i Clarke ruthro i lawr y llain wrth geisio taro’r bêl dros ben y bowliwr.
Parhau wnaeth y rhwystredigaeth i Loegr wrth i Voges adeiladu partneriaeth gadarn gyda Shane Watson wrth i Awstralia fynd heibio’r 250 gyda chwta hanner awr o’r diwrnod yn weddill.
Daeth y bartneriaeth o 51 i ben wrth i Voges yrru’n syth i Jimmy Anderson oddi ar fowlio Ben Stokes am 31, ac Awstralia’n 258-5 wrth i Nathan Lyon ddod i’r llain.
Roedd Awstralia’n 264-5 ar ddiwedd yr ail ddiwrnod, 166 o rediadau y tu ôl i gyfanswm batiad cyntaf Lloegr o 430.