Mae gornest Morgannwg yn erbyn Swydd Derby yn Chesterfield wedi gorffen yn gyfartal ar ddiwedd y pedwerydd diwrnod.

Dechreuodd Swydd Derby y diwrnod olaf ar 37-0 wedi i Forgannwg eu gorfodi i ganlyn ymlaen ar ddiwedd y batiad cyntaf.

Ond roedd yn ddiwrnod hesb i fowlwyr Morgannwg wrth i Hamish Rutherford (108) a Wayne Madsen (79*) wneud i’r Cymry ddioddef.

Roedd hi mor wael ar Forgannwg nes bod eu rhwystredigaeth wedi arwain at y penderfyniad i ofyn i’r bowliwr cyflym Michael Hogan droi ei law at droelli mewn ymgais i gipio wicedi hwyr.

Ond ofer fu ei ymdrechion, ac fe ddaeth yr ornest i ben pan benderfynodd Swydd Derby gau eu batiad ar 281-3.

Yn gynharach yn yr ornest, roedd batwyr Morgannwg wedi cydweithio i gyrraedd cyfanswm o 410-9 cyn cau eu batiad cyntaf – y prif sgorwyr oedd Colin Ingram (89), Craig Meschede (70), Graham Wagg (62) a David Lloyd (55).

Cipiodd Mark Footitt bedair wiced i Swydd Derby yn y batiad i atgoffa dewiswyr Lloegr y dylai fod wedi’i gynnwys yn y garfan i herio Awstralia yng Nghaerdydd yr wythnos hon.

Wrth ymateb i gyfanswm Morgannwg, dim ond Billy Godleman (53) oedd wedi llwyddo i daro hanner canred wrth i Swydd Derby gyrraedd 252. Cipiodd bowliwr Albanaidd Morgannwg, Ruaidhri Smith dair wiced am 23 i gofnodi ei ffigurau dosbarth cyntaf gorau erioed.

Fe fydd Morgannwg braidd yn siomedig gyda’r canlyniad o gofio eu bod nhw’n anelu am eu pumed buddugoliaeth o’r bron yn y Bencampwriaeth – camp nad ydyn nhw wedi’i chyflawni erioed o’r blaen.

Ymateb

Ar ddiwedd yr ornest, dywedodd prif hyfforddwr Morgannwg, Toby Radford: “Roedd yr amodau’n amlwg yn well ar gyfer batio, roedd yr haul yn gwenu drwy’r dydd ac fe aeth y bêl yn feddal a’r llain yn fwy gwastad, felly roedd yn waith caled. Ond ro’n i’n blesd gyda’r ffordd wnaethon ni fowlio.

“Dw i ddim yn credu y gallen ni fod wedi gwneud rhagor a weithiau, rhaid i chi ganmol y gwrthwynebwyr.

“Roedden ni am geisio gwneud rhywbeth nad yw Morgannwg wedi gwneud erioed o’r blaen. Ry’n ni wedi ennill pedair o’r bron ond nid pump, felly roedden ni’n mynd i daflu popeth ati, felly mae’n peri ychydig o rwystredigaeth ond dw i wrth fy modd ei bod hi’n Orffennaf 9 ac ry’n ni’n parhau’n ddi-guro yn y Bencampwriaeth.”