Cafodd batiad Awstralia ei sefydlogi ar ddechrau’r ail sesiwn ar ail ddiwrnod prawf criced cyntaf Cyfres y Lludw, wrth i Chris Rogers daro 74 heb fod allan cyn i’r sesiwn ddod i ben.

Parhau wnaeth y cyffro wedi’r egwyl ginio ym mhrawf criced cyntaf Cyfres y Lludw, wrth i Stuart Broad ildio unarddeg rhediad yn ei belawd gyntaf, wrth i Awstralia ruthro i 37-0.

Yn yr ail belawd, roedd penderfyniadau’r dyfarnwyr o dan y chwyddwydr unwaith eto. Penderfynodd y dyfarnwr Kumar Dharmasena fod Jimmy Anderson wedi darganfod coes David Warner o flaen y wiced, ond dangosodd y camerâu teledu fod y bêl wedi glanio y tu allan i’r wiced goes.

Dim ond ar ôl apelio’r penderfyniad y goroesodd Warner y penderfyniad, ac mae’n siwr y caiff Dharmasena hunllefau ar ôl sylweddoli pa mor wael oedd ei benderfyniad gwreiddiol.

Fe gipiodd Lloegr wiced Warner yn y pen draw, a hynny diolch i ddaliad campus gan y capten Alastair Cook wrth neidio i’r ochr yn y slip. Ar y pryd, roedd Awstralia’n 52-1.

Fe gafodd Cook ei anafu wrth geisio dal ei afael ar ail ddaliad, ac fe fu’n rhaid iddo adael y cae a chael ei ddisodli gan droellwr llaw chwith Morgannwg, Dean Cosker sydd wedi derbyn gwahoddiad gan Loegr i weithredu fel deuddegfed dyn.

Ar ôl cyrraedd ei hanner canred, tarodd Chris Rogers ergyd i’r ffin am bedwar wrth i Awstralia ymlwybro i 100-1 ar ôl 25 o belawdau.

Dangosodd Steve Smith ei fwriad i ymosod o’r cychwyn, a Moeen Ali ddioddefodd waethaf wrth i’r chwaraewr amryddawn daro tair ergyd i’r ffin o fewn un belawd, gan geisio gwrthbrofi’r feirniadaeth nad oes ganddo fe’r doniau naturiol angenrheidiol i fod yn fatiwr rhif tri.

Ond tarodd Ali yn ôl gyda’r cyfanswm yn 129-2, wrth i Smith ddawnsio a baglu i lawr y llain a chanfod dwylo’r capten Alastair Cook yn maesu’n agos ar ochr y goes.

Daeth capten Awstralia, Michael Clarke i’r llain ac roedden nhw’n 145-2 erbyn diwedd y sesiwn, 285 o rediadau y tu ôl i Loegr.

Roedd Rogers yn 74 heb fod allan, a Clarke yn 11 heb fod allan.